Ysgrythurau Islamaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Testun sanctaidd canolog Islam yw'r Corân[1][2] neu weithiau yn Gymraeg Cwrân[2] neu Alcoran[3] (Arabeg: القرآن al-qur'ān, yn llythrennol "yr adroddiad"; sy'n cael ei ysgrifennu sawl ffordd, e.e. Qur'an neu Al-Qur'an). Cred Mwslimiaid fod y Corân yn llyfr sy'n rhoi arweiniad dwyfol i'r ddynolryw, ac ystyriant fod y testun (yn yr Arabeg wreiddiol) yn cynrychioli datguddiad dwyfol olaf Duw (Allah). Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd y Corân ei ddatguddio i'r Proffwyd Muhammad gan yr angel Gabriel yn ysbeidiol dros gyfnod o 23 o flynyddoedd.
Enghraifft o'r canlynol | ysgrythur, gwaith llenyddol |
---|---|
Iaith | Arabeg Clasirol |
Dechrau/Sefydlu | 631 |
Genre | llenyddiaeth grefyddol, ysgrythur |
Rhagflaenwyd gan | Injil |
Cymeriadau | Muhammad, Noah in Islam, Jesus in Islam, Moses in Islam, Ibrahim, Isaac in Islam, Mary in Islam, Zayd ibn Haritha al-Kalbi, Lot's wife, Naamah, Samiri, Abū Lahab, Umm Jamil, David in Islam, Goliath, Harun, Solomon in Islam, Adam in Islam, Cain and Abel in Islam, Jibril, Brenhines Sheba, Efa, Zaynab bint Jahsh, Khidr, Lot in Islam, Uzair, Luqman, Korah, Joseph in Islam, Lot's daughters, Idris, Job in Islam, Ismail, Elijah in Islam, Elisha in Islam, zu'l kifli, Shuayb, Saleh, Hud, Jacob in Islam, Yunus, Dhul-Qarnayn, Iblis, God in Islam |
Yn cynnwys | Al-Fâtiha, Al-Baqarah, Al Imran, An-Nisāʼ, Al-Ma'idah, Al-Anʻām, Al-Aʻrāf, Al-Anfal, At-Tawbah, Yunus, Hūd, Yūsuf, Ar-Raʻd, Ibrahim, Al-Hijr, An-Nahl, Al-Isra, Al-Kahf, Maryam, Ta-Ha, Al-Anbiya, Al-Ḥajj, Al-Mu’minūn, An-Nūr, Al-Furqan, Ash-Shu'ara, An-Namli, Al-Qaṣaṣ, Al-‘Ankabūt, Ar-Rum, Luqman, As-Sajda, Al-Aḥzāb, Sabaʾ, Fāṭir, Ya Sin, As-Saaffat, Sad, Az-Zumar, Ghafir, Fuṣṣilat, Ash-Shura, Az-Zukhruf, Ad-Dukhan, Al-Jathiya, Al-Ahqaf, Surat Mohammed, Al-Fath, alhograt, Sūrat Qaf, Adh-Dhariyat, At-Tur, Sūrat an-Najm, Sūrat al-Qamar, Ar-Rahman, Al-Waqi'a, Al-Hadid, Al-Mujadila, Al-Hashr, Al-Mumtahina, As-Saff, Al-Jumua, Al-Munafiqun, At-Taghabun, At-Talaq, At-Tahrim, Sūrat al-Mulk, Al-Qalam, Al-Haaqqa, Al-Maarij, Nuh, Al-Jinn, Al-Muzzammil, Al-Muddaththir, Al-Qiyāmah, al-Insān, Al-Mursalat, An-Naba, An-Naziat, Abasa, At-Takwir, Al-Infitar, Al-Mutaffifin, Sūrat al-Inshiqāq, Sūrat al-Burūj, Sūrat aṭ-Ṭāriq, Al-Ala, Al-Ghashiya, Al-Fajr, Al-Balad, Ash-Shams, Al-Lail, Ad-Dhuha, Al-Inshirah, Sūrat at-Tīn, Al-ʻAlaq, Al-Qadr, Al-Bayyinah, Az-Zalzala, Al-Adiyat, Al-Qariah, At-Takathur, Al-Asr, Al-Humaza, Al-Fil, Quraysh, Al-Ma'un, Al-Kawthar, Al-Kafirun, An-Nasr, Al-Masad, Al-Ikhlas, Al-Falaq, Al-Nas |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Arabia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhan o gyfres ar |
---|
Athrawiaeth |
Arferion |
Hanes ac Arweinwyr |
Ahl al-Bayt · Sahaba |
Testunau a Deddfau |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Diwylliant a Chymdeithas |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Islamoffobia · Termau Islamig |
Mae Mwslimiaid yn gweld y Corân fel yr olaf mewn cyfres o negeseuon dwyfol sy'n cychwyn gyda'r rhai a ddatguddiwyd i Adda, a ystyrir yn broffwyd cyntaf Islam, ac a barhawyd gyda'r Suhuf-i-Ibrahim (Sgroliau Abraham), y Tawrat (Torah neu ran gyntaf yr Hen Destament), y Zabur (Llyfr y Salmau), ac yn olaf yr Injil (Efengyl, sy'n cyfateb i rannau o'r Testament Newydd). Er nad yw'r llyfrau hynny yn cael eu cynnwys yn y Corân ei hun, caent eu hadnabod ynddo fel testunau o darddiad dwyfol.
Yn ogystal, mae'r Corân yn cyfeirio at sawl digwyddiad a geir yn yr ysgrythurau Iddewig a Christnogol, gan ailadrodd yr hanesion mewn ffordd sy'n gwahaniaethu rhywfaint o'r hyn a geir yn y testunau hynny, a gan grybwyll yn ogystal, yn llai manwl, ddigwyddiadau eraill ynddynt.
Un gwahaniaeth mawr rhwng y Corân a'r Beibl a'r Torah yw'r ffaith nad ydyw fel rheol yn cynnig disgrifiadau manwl o ddigwyddiadau; ceir y pwyslais i gyd ar arwyddocâd ysbrydol a moesol digwyddiadau yn hytrach na threfn gronolegol neu naratifol. Ceir manylion llawnach o lawer am ddigwyddiadau hanesyddol neu led-hanesyddol yn yr Hadithau gan Fuhammad ac yn adroddiadau'r Sahabah (Cydymdeithion Muhammad).
Mae penillion y Corân, sydd mewn rhyddiaith odledig, yn deillio o'r traddodiad llafar, a chawsant eu cadw ar gof gan gydymdeithwyr Muhammad a'u trosglwyddo ar lafar am genhedlaeth neu ddwy. Yn ôl y traddodiad Sunni, coladwyd y Corân a'i gofnodi ar femrwn yn amser y Califf Abu Bakr, dan arweiniad Zayd ibn Thabit Al-Ansari. Cafodd y llawysgrif(au) ei throsglwyddo wedyn ar ôl marwolaeth Abu Bakr, ond mae'r manylion yn amrywio gyda fersiwn y Shia yn wahanol i fersiwn y Sunni.
Fel yn achos y Beibl, ceir nifer o argraffiadau o'r Corân mewn sawl iaith, ond hyd yn hyn ni cheir y testun cyfan yn y Gymraeg. Ceir detholiad a gyhoeddir gan y Gymuned Fwslim Ahmaddiya ym Mhrydain yn:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.