Islam yn ôl gwlad

From Wikipedia, the free encyclopedia

Islam yn ôl gwlad

Islam yw'r ail grefydd fwyaf yn y byd ar ôl Cristnogaeth gyda 1.3-1.8 biliwn o gredadwyr, sy'n cynnwys 20-25% o boblogaeth y byd[1] gyda'r rhan fwyaf o ffynonellau yn amcangyfrif fod tua 1.5 biliwn o Fwslimiaid yn y byd.[2][3]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o: ...
Islam yn ôl gwlad
Enghraifft o:erthygl sydd hefyd yn rhestr 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau
Thumb
Islam - canran Mwslimiaid yn ôl gwlad

Islam yw'r brif grefydd yn y Dwyrain Canol, rhai rhannau o Affrica[4][5] ac Asia.[6] Ceir cymunedau sylweddol o Fwslimiaid yn Ngweriniaeth Pobl Tsieina, Bosnia a Hertsegofina, Dwyrain Ewrop a Rwsia hefyd. Mewn rhai rhannau eraill o'r byd, ceir poblogaethau o fewnfudwyr Mwslimaidd; yng Ngorllewin Ewrop Islam yw'r ail grefydd fwyaf ar ôl Cristnogaeth.

Mewn tua 30 i 40 o wledydd y byd mae Mwslimiaid yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth. De Asia a De-ddwyrain Asia yw'r rhanbarthau lle ceir y gwledydd Mwslim mwyaf; Ceir dros 100 miliwn o Fwslimiaid ym mhob un o'r gwledydd hyn: Indonesia, Pacistan, India (lleiafrif), a Bangladesh.[7] Yn ôl llywodraeth yr Unol Daleithiau, roedd yna dros 20 miliwn Mwslim yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn 2006 (canran isel o'r boblogaeth er hynny, yn byw yng ngorllewin y wlad yn bennaf).[8] Yn y Dwyrain Canol, Twrci ac Iran, sydd ddim yn wledydd Arabaidd, yw'r gwledydd mwyaf gyda mwyafrif Mwslimaidd; yn Affrica, ceir y cymundau Mwslim mwyaf yn Yr Aifft a Nigeria. Mae mwyafrif llethol poblogaeth gwledydd y Maghreb yn Fwslimiaid hefyd.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.