Teulu o golomennod yw'r Columbidae, sy'n cynnwys y sguthan, y golomen wyllt a'r durtur. Dyma'r unig deulu yn urdd y Columbiformes. Mae'r rhain yn adar cryf eu corff gyda gwddf byr a phigau main, byr. Fel y twrci, y dylluan a'r parot mae gan rhai o aelodau'r teulu yma gwyrbilen ar waelod eu pigau. Gan fwyaf, mae'r golomen yn bwydo ar hadau, ffrwythau a phlanhigion. Mae'r teulu i'w gael ledled y byd, ond mae'r amrywiaeth fwyaf yn y byd yn Indomalayan (ar draws y rhan fwyaf o Dde a De-ddwyrain Asia ac i rannau deheuol Dwyrain Asia) ac Awstralasia. Mae'r teulu'n cynnwys tua 335 o rywogaethau.[1] Maen nhw'n codi nyth syml o ffyn, lle maen nhw'n dodwy un neu ddau ŵy gwyn. Mae'r rhieni'n cynhyrchu math o "laeth" ar gyfer eu cywion nhw.
Colomennod | |
---|---|
Ysguthan (Columba palumbus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Columbiformes Latham, 1790 |
Teulu: | Columbidae Illiger, 1811 |
Genera | |
Gweler y rhestr |
Hadau a ffrwyth yw bwyd y rhan fwyaf o golomenod a gellir rhannu'r teulu'n ddau. Gall un math o golomenod sy'n perthyn i'r Colomennod Ffrwyth Atol fwyta pryfaid a phryfaid genwair a gwybed.[2]
Mae'n symbol rhyngwladol a Christnogol o heddwch ac o ran geirdarddiad, mae'n fenthyciad o'r Lladin columba gair a ddaeth i ynysoedd Prydain gan y Rhufeiniaid, fwy na thebyg.
Mae'r teulu wedi'u rhannu'n 50 genera gyda 13 rhywogaeth wedi difodi.[3]
Yn Saesneg, mae'r rhywogaethau llai yn dueddol o gael eu galw'n "doves" a'r rhai mwy yn "pidgeons".[4] Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaeth yn gyson,[4] ac nid yw'n bodoli mewn unrhyw iaith arall, gan gynnwys y Gymraeg. Yr aderyn y cyfeirir ato amlaf fel "colomen" yw'r golomen ddof (Columba livia domestica), istrywogaeth, a'r aderyn cyntaf i gael ei dofi a'i chadw er mwyn ei chig a'i hwyau, ac sy'n cael ei hadnabod mewn llawer o ddinasoedd fel y golomen wyllt (hefyd Columba livia domestica). Ond mae colomen wyllt hefyd yn enw ar rywogaeth o golomennod, sef y (Columba oenas).
Nyth digon tila mae'r golomen yn ei hadeiladu fel arfer, yn aml gan ddefnyddio ffyn a malurion eraill, y gellir eu gosod ar ganghennau coed, ar silff o ryw fath, neu ar y ddaear, yn dibynnu ar y rhywogaeth. Maent yn dodwy un neu (fel arfer) ddau wy gwyn ar y tro, ac mae'r ddau riant yn gofalu am y cywion, sy'n gadael y nyth ar ôl 25-32 diwrnod. Gall colomennod hedfan erbyn y maent yn 5 wythnos oed. Mae an y cywion hyn, leisiau gwichlyd anaeddfed ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar, gall colomennod o'r ddau ryw gynhyrchu "llaeth cropa" i'w fwydo i'w cywion, wedi'i secretu gan lif o gelloedd llawn hylif o leinin y cropa (neu crombil).
Tarddiad ac esblygiad
| |||||||||||||||||||||
Phylogentic relationship of Columbiformes in the Neoaves clade[5] |
Columbiformes yw un o'r cladau mwyaf amrywiol o neoafiaid, ac mae ei wreiddiau yn y cyfnod Cretasaidd[6] ac yn ganlyniad arallgyfeirio cyflym ar ddiwedd ffin K-Pg.[7] Dadansoddwyd y genom cyfan yn y 2010au, a darganfyddwyd bod gan y columbiformes gysylltiad agos â'r gog (Cuculiformes), gan ffurfio grŵp sy'n chwaer gytras i grŵp y grugieir (Pterocliformes) a'r mesitiaid (Mesitornithiformes).[8][9]
Tacsonomeg a systemateg
Cyflwynwyd yr enw 'Columbidae' i'r teulu gan y sŵolegydd o Loegr William Elford Leach mewn canllaw i gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig a gyhoeddwyd yn 1820.[10][11] Columbidae yw'r unig deulu byw yn y drefn Columbiformes. Roedd y grugieir tywod (Pteroclidae) yn cael eu gosod yma gynt, ond fe'u symudwyd i urdd ar wahân, sef Pterocliformes, oherwydd gwahaniaethau anatomegol sylfaenol (fel yr anallu i yfed trwy "sugno" neu "bwmpio").[12]
Rhennir y Columbidae fel arfer yn bum is-deulu, yn anghywir yn ôl pob tebyg.[13] Er enghraifft, mae'r colomennod daear a sofliar Americanaidd (Geotrygon), sydd fel arfer yn cael eu gosod yn y Columbinae, yn ymddangos mewn dau is-deulu ar wahân. Mae'r drefn a gyflwynir yma yn dilyn Baptista et al. (1997),[14] gydag ambell ddiweddariad.[15][16][17]
Mae trefniant genera ac enwi is-deuluoedd mewn rhai achosion yn amodol oherwydd bod dadansoddiadau o ddilyniannau DNA gwahanol yn rhoi canlyniadau sy'n wahanol, yn aml yn radical, wrth leoli rhai genera (Indo-Awstralia yn bennaf). Mae'n ymddangos bod yr amwysedd hwn, a achosir yn ôl pob tebyg gan 'atyniad cangen hir', yn cadarnhau bod y colomennod cyntaf wedi datblygu yn Awstralasia, a bod y "Treronidae" a'r ffurfiau perthynol (colomennod coronog a'r golomen ffesant, er enghraifft) yn cynrychioli tarddiad cynharaf y grwp.
Cyn hynny roedd y teulu Columbidae hefyd yn cynnwys y teulu Raphidae, a oedd yn cynnwys y Rodrigues solitaire diflanedig a'r dodo.[18][19][20] Mae'r rhywogaethau hyn yn ôl pob tebyg yn rhan o gangen Indo-Awstralia a gynhyrchodd y tri is-deulu bach a grybwyllir uchod, gyda'r colomennod ffrwythau ee colomen Nicobar. Felly, cânt eu cynnwys yma fel is-deulu Raphinae, tra'n aros am dystiolaeth berthnasol, well o'u hunion berthynas.[21]
Gan waethygu'r materion hyn, nid yw'r columbiaid yn cael eu cynrychioli'n dda yn y cofnod ffosil.[22] Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ffurfiau gwirioneddol gyntefig hyd yn hyn. Mae'r genws Gerandia wedi'i ddisgrifio o ddyddodion Mïosen Cynnar yn Ffrainc, ond er y credid ers tro ei fod yn golomen,[23] fe'i hystyrir bellach yn grugiar dywod (y Pteroclidae).[24] Darganfuwyd rhanau o golomennod "ptilinopine" y cyfnod Mïosen Cynnar mae'n debyg yn Ffurfiant Bannockburn yn Seland Newydd ac fe'i disgrifiwyd fel Rupephaps.[24][25][26]
Disgrifiad
Maint ac ymddangosiad
Mae colomennod yn amrywio'n sylweddol o ran maint, yn amrywio o ran hyd, sef rhwng15 a 75 cm (5.9 i 29.5 mod), ac mewn pwysau o 30 gm i dros 2,000 gm.[27] Y rhywogaeth fwyaf yw'r golomen goronog o Gini Newydd,[28] sydd bron yr un maint a thwrci, ac yn pwyso 2-4 km (4.4-8.8 pwys).[29] Y lleiaf o'r colomennod yw colomen ddaear y Byd Newydd o'r genws Columbina, sydd yr un maint ag aderyn y to, ac yn pwyso cyn lleied â 22 gram (0.049 pwys).[30] Y turtur ffrwythau fechan, a all fesur cyn lleied â 13 cm yw'r lleiaf o'r teulu hwn. Mae un o'r rhywogaethau goed mwyaf, cosef colomen Ynys Nukuhiva, yn brwydro yn erbyn difodiant ar hyn o bryd.[31]
Anatomeg a ffisioleg
Yn gyffredinol, nodweddir anatomeg aelodau o'r teulu Columbidae gan goesau byr, pigau byr gyda chwyrbilen (cere), a phennau bach ar gyrff gymharol fawr.[32] Fel rhai adar eraill, nid oes gan y Columbidae goden fustl.[33] Daeth rhai naturiaethwyr canoloesol i’r casgliadfod hyn yn egluro natur felys cig y golomen.[34] Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae ganddynt fustl (fel y sylweddolodd Aristotle yn gynharach), sy'n cael ei secretu'n uniongyrchol i'r perfedd.[35]
Mae'r adenydd yn fawr, a cheir 11 prif bluen;[36] mae gan golomennod gyhyrau cryf yn eu hadenydd (cyhyrau adenydd yw 31–44% o bwysau eu cyrff [37]) ac maen nhw ymhlith yr hedfanwyr cryfaf o'r holl adar.[36]
Mewn cyfres o arbrofion yn 1975 gan Dr. Mark B. Friedman, gan ddefnyddio colomennod, dangoswyd bod eu pen yn pendilio lan a lawr oherwydd eu hawydd naturiol i gadw eu golwg ar rywbeth yn gyson.[38] Fe'i dangoswyd eto mewn arbrawf yn 1978 gan Dr. Barrie J. Frost, ar felin redeg, lle sylwyd nad oeddent yn pendilio eu pennau, gan fod eu hamgylchoedd yn gyson.[39]
Plu
Mae gan aelodau o deulu'r Columbidae blu unigryw ar eu cyrff, gyda'r coesyn yn gyffredinol eang, cryf, a gwastad, yn lleihau'n raddol i bwynt main.[40] Yn gyffredinol, mae'r adbluen (aftershaft) yn absennol; fodd bynnag, efallai y ceir rhai bach ar rai plu cynffon ac adain.[41] Mae gan blu'r corff waelodion trwchus iawn, sy'n cysylltu'n rhydd â'r croen ac yn disgyn yn hawdd,[42] o bosibl er mwyn osgoi ysglyfaethwyr,[43] mae niferoedd mawr o blu yn cwympo allan yng ngheg yr ymosodwr os caiff yr aderyn ei gipio, gan ei gwneud yn haws i'r aderyn ddianc.
Ceir cryn amrywiaeth o fewn plu'r teulu.[44] Mae gan rai rhywogaethau blu llachar.[45] Y Ptilinopus (y colomennod ffrwythau ee y Turtur ffrwythau benlas) yw rhai o'r colomennod mwyaf lliwgar, gyda'r tair rhywogaeth endemig o Fiji ac Alectroenas Cefnfor India y disgleiriaf.[46] Yn ogystal mae gan rhai colomennod gribau neu addurniadau eraill.[47]
Hedfan
Dyma deulu o hedfanwyr rhagorol oherwydd y lifft (neu'r codiad) a ddarperir gan eu hadenydd mawr;[48][49] ac mae ganddynt gymhareb agwedd (aspect ratio) isel oherwydd lled eu hadenydd, gan ganiatáu iddynt fedru lansio i'w hedfaniad yn gyflym, gan ddianc rhag ysglyfaethwyr, ond am gost ynni uchel.[50]
Dosbarthiad a chynefin
Mae colomennod yn cael eu dosbarthu dros y Ddaear, ac eithrio ardaloedd sychaf Anialwch y Sahara, Antarctica a'r ynysoedd cyfagos, a'r Arctig uchel.[51] Maent wedi gwladychu'r rhan fwyaf o ynysoedd cefnforol y byd, gan gyrraedd dwyrain Polynesia ac Ynysoedd Chatham yn y Cefnfor Tawel, Mauritius, y Seychelles a Réunion yng Nghefnfor India, a'r Azores yng Nghefnfor yr Iwerydd.
Mae'r teulu wedi addasu i'r rhan fwyaf o'r cynefinoedd sydd ar gael ar y blaned. Ceir rhywogaethau amrywiol hefyd mewn: safanas, glaswelltiroedd, anialwch, coetir tymherus a choedwigoedd, coedwigoedd mangrof, a hyd yn oed tywod a graean diffrwyth yr atolau.[52]
Mae gan rai rhywogaethau diriogaethau enfawr, gyda'r durtur glustiog yn ymestyn ar draws De America i gyd o Colombia i Tierra del Fuego,[53] mae gan y durtur dorchog enfawr o ynysoedd Prydain ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol, India, Pacistan a Tsieina,[54] a'r durtur chwerthinog ar draws y rhan fwyaf o Affrica Is-Sahara, yn ogystal ag India, Pacistan, a'r Dwyrain Canol.[55] Mae gan rywogaethau eraill ddosbarthiad bychan, cyfyngedig; mae hyn yn fwyaf cyffredin mewn ynysoedd endemig . Mae'r durtur benfelen yn endemig i Ynys fechan Kadavu yn Fiji,[56] cyfyngir Turtur ddaear Ynysoedd Truk i ddwy ynys, Truk a Pohnpei yn Ynysoedd Caroline,[57] a chyfyngir turtur Grenada i Grenada ei hun, yn y Caribî.[58] Mae gan ambell rywogaethau cyfandirol hefyd ddosbarthiad bychain; er enghraifft, cyfyngir y golomen wregysog i ardal fechan o Dir Arnhem yn Awstralia,[59] cyfyngir y golomen Somalia i ardal fechan iawn yng ngogledd Somalia,[60] a chyfyngir turtur ddaear lygatfoel i'r ardal o gwmpas Salta a Tucuman yng ngogledd Ariannin.[61]
Y rhywogaeth gyda'r ardal fwyaf (o unrhyw rywogaeth) yw'r golomen graig.[62] Mae ei chynefin yn eang iawn: o ynysoedd Prydain ac Iwerddon i ogledd Affrica, ar draws Ewrop, Arabia, Canolbarth Asia, India, yr Himalaya, i Tsieina a Mongolia.[62] Daeth y cynnydd hwn drwy ddofi colomennod, a llawer o'r rheiny'n dianc i'r gwyllt, yn enwedig mewn dinasoedd.[62][62] Ond nid yw'r unig golomen sydd wedi cynyddu ei hardal oherwydd gweithredoedd dyn; mae nifer o rywogaethau eraill wedi ymsefydlu y tu allan i'w cynefin naturiol ar ôl dianc o gaethiwed.[61] Canfu astudiaeth yn 2020 fod Arfordir Dwyreiniol yr Unol Daleithiau yn cynnwys dwy fegaddinas genetig y golomen: Efrog Newydd a Boston, lle nad yw'r adar yn cymysgu â'i gilydd.[63]
Fel bwyd
Defnyddir sawl math o golomennod fel bwyd; ac mae pob rhywogaeth yn fwytadwy.[64] Defnyddiwyd y mathau dof fel ffynhonnell bwyd ers sawl mileniwm.[65] Fe'i defnyddiwyd yn helaeth o fewn bwydydd Iddewig, Arabaidd a Ffrengig. Yn ôl y Tanakh, kosher yw colomennod, a dyma'r unig adar y gellir eu defnyddio ar gyfer corban. Defnyddir colomennod hefyd mewn bwydydd Asiaidd, megis bwydydd Tsieineaidd, Asameg ac Indonesia.
Yn Ewrop, mae sguthanod yn cael eu saethu'n gyffredin fel aderyn helwriaeth,[66] tra bod colomennod y graig yn cael eu dofi yn wreiddiol er mwyn eu cig.[67] Roedd difodiant colomennod crwydr yng Ngogledd America o leiaf yn rhannol oherwydd iddynt gael eu hela am eu cig.[68] Mae'r llyfr Mrs Beeton's Book of Household Management yn cynnwys ryseitiau ar gyfer colomennod rhost a phastai colomennod, bwyd poblogaidd, rhad yng ngwledydd Prydain yn Oes y Llymru.[69]
Genera
|
|
Rhestr Wicidata:
teulu | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Adeinefydd Prydain Newydd | Henicophaps foersteri | |
Adeinefydd bach | Phaps elegans | |
Adeinefydd cyffredin | Phaps chalcoptera | |
Colomen Bolle | Columba bollii | |
Colomen Rameron | Columba arquatrix | |
Colomen Somalia | Columba oliviae | |
Colomen Wyllt | Columba oenas | |
Colomen alarus | Zenaida macroura | |
Colomen ddu Okinawa | Columba jouyi | |
Colomen dorchwen | Columba albitorques | |
Colomen graig | Columba livia | |
Colomen graig ddwyreiniol | Columba rupestris | |
Colomen rameron Cameroun | Columba sjostedti | |
Colomen rameron Comoro | Columba pollenii | |
Colomen rameron Saõ Tomé | Columba thomensis | |
Colomen warwen | Columba albinucha | |
Cordurtur goch | Geotrygon montana | |
Turtur | Streptopelia turtur | |
Turtur Inca | Columbina inca | |
Turtur adeinlas | Turtur afer | |
Turtur adeinwen | Zenaida asiatica | |
Turtur adeinwerdd | Turtur chalcospilos | |
Turtur alarus | Streptopelia decipiens | |
Turtur benlas | Turtur brehmeri | |
Turtur bigddu | Turtur abyssinicus | |
Turtur ddaear adeinefydd | Metriopelia aymara | |
Turtur ddaear blaen | Columbina minuta | |
Turtur ddaear grawciol | Columbina cruziana | |
Turtur ddaear gyffredin | Columbina passerina | |
Turtur ddaear las | Claravis pretiosa | |
Turtur ddaear lygatlas | Columbina cyanopis | |
Turtur ddaear wynepfoel | Metriopelia ceciliae | |
Turtur dorchgoch | Streptopelia tranquebarica | |
Turtur dorchog | Streptopelia decaocto | |
Turtur dorchog Affrica | Streptopelia roseogrisea | |
Turtur dorchog Jafa | Streptopelia bitorquata | |
Turtur dorwridog | Streptopelia hypopyrrha | |
Turtur wynebwen Affrica | Columba larvata | |
Turtur y Dwyrain | Streptopelia orientalis | |
Turtur y Galapagos | Zenaida galapagoensis | |
Ysguthan | Columba palumbus | |
Ysguthan Affrica | Columba unicincta | |
Ysguthan Andaman | Columba palumboides | |
Ysguthan Sri Lanka | Columba torringtoniae | |
Ysguthan ddu | Columba janthina | |
Ysguthan lwyd | Columba pulchricollis |
Gweler hefyd
- Colomen ymerodrol Marquesan
- Rheoli colomennod
- Colomennod rhyfel
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.