From Wikipedia, the free encyclopedia
Darn bach o gnawd, rhwng y coluddyn mawr a'r coluddyn bach, ydy'r coluddyn crog (Saesneg: Vermiform appendix neu appendix ar lafar). Nid ydy gwyddoniaeth hyd yma wedi darganfod ei bwrpas. Mewn rhai pobl, mae'n chwyddo neu'n 'llidio', a'r unig ateb ydy ei dynnu drwy lawdriniaeth mewn ysbyty; naill ai laparotomi neu laparoscopi. Heb driniaeth, mae cleifion yn marw o lid y ffedog a sioc.
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog |
16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Yn dilyn llawer o arbrofion, mae'n ymddangos mai rhyw rwystr yn 'lwmen' y coluddyn crog sy'n ei achosi i droi'n llidiog ac i ffyrnigo.[1] Cyn gynted mae'r rhwystr yma'n digwydd, mae'n llenwi gyda mwcws ac yn chwyddo (hynny yw, yn troi'n llidiog). Mae'r pwysedd y tu mewn i'r lwmen yn cynyddu gan greu thrombosis ac achludiad yn y pibelli bychain. Ar adegau prin iawn, fe all cleifion wella ei hun. Os nad, yna mae'r bacteria yn dechrau gollwng drwy'r waliau tenau (sydd eisoes yn dechrau marw) gan achosi llid y ffedog. Os yw hwnnw, wedyn, yn dwysáu ac yn gwaethygu, mae'n troi'n wenwyn yn y gwaed (neu 'septisimia') a marwolaeth yn ei ddilyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.