Iau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Darn o bren wedi ei wisgo am wddf pâr o anifeiliaid yw iau. Defnyddir yr iau i alluogi anifeiliaid i dynnu llwyth, e.e. aradr, coed, trol, cert, neu i droi pwmp dŵr i ddyfrhau. Pwrpas yr iau yw rhannu'r baich ar draws ysgwyddau'r anifeiliaid.

Defnyddir ieuau ar geffylau weithiau ond ar ychain y'i gwelir amlaf. Defnyddir ychain â chyrn arnynt er mwyn cadw'r iau yn ei le pan fyddant yn arafu, yn cerdded am nôl neu yn gostwng eu pennau.
Llyfryddiaeth
- F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 1954)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.