From Wikipedia, the free encyclopedia
Elfen gemegol yw cesiwm gyda'r rhif atomig 55 a'r symbol Cs. Mae'n rhan o 'r metelau alcalïaidd yn y tabl cyfnodol.
Metel feddal iawn yw cesiwm a gellir ei dorri gyda chyllell yn hawdd. Er ei fod yn solid, mae ymdoddbwynt y metel yn isel iawn (28.4 °C), ac mae'n ymdoddi'n hawdd. Mae'r metel yn adweithiol iawn felly mae'r wyneb newydd yn sgleiniog, ond mae'n troi'n bŵl yn gyflym wrth i haen o cesiwm ocsid ffurfio dros ei wyneb yn ystod adwaith gydag ocsigen o'r aer. Er mwyn atal yr adwaith caiff y metel ei storio o dan olew paraffin sy'n cadw'r aer i ffwrdd. Mae'r elfen yn ffrwydro pan gyffyrdda â dŵr gan ei fod mor adweithiol. Mae cyfansoddion cesiwm yn wenwynig gan bod catïon Cs+ yn medru cyfnewid gyda chatïonau potasiwm mewn systemau biolegol.
Defnyddir cesiwn mewn clociau cesiwm i fesur amser yn wyddonol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.