Capel Charing Cross

From Wikipedia, the free encyclopedia

Capel Charing Cross

Mae Capel Charing Cross yn gapel y Presbyteriaid Cymreig yn gyn eglwys Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar Charing Cross Road yn Ninas Westminster, Llundain, Lloegr. Agorwyd ef yn 1888; cynhaliwyd y gwasanaeth olaf ym mis Gorffennaf 1982. Hwn oedd safle clwb nos Limelight yn yr 1980au.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Rhanbarth ...
Capel Charing Cross
Thumb
Enghraifft o:eglwys 
Thumb
RhanbarthDinas Westminster 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Pensaernïaeth

Cynlluniwyd y capel gan James Cubitt yn null y Diwygiad phensaernïaeth Romanésg a'i adeiladu yn 1888.[1] Fe'i gwnaed o frics gwyn 'Parpoints Swydd Efrog' gyda naddiadau carreg Ancaster a tho llechi ar eu pen. Y tu mewn mae'n cael ei ddominyddu gan ofod sgwâr mawr canolog gyda thrawstiau byr i'r dwyrain a'r gorllewin. Roedd organ wedi'i lleoli uwchben yr oriel y tu ôl i'r pulpud. Mae gan y capel gromen wythonglog amlwg. Ym 1984 fe'i troswyd yn fewnol i'w ddefnyddio fel swyddfa.[1] Adeiladwyd y capel fel eglwys Bresbyteraidd ar gyfer y gymuned Gymraeg yn Llundain.[2] Mae tŷ'r Gweinidog rhyng-gysylltiedig wedi'i leoli yn 136 Shaftesbury Avenue a dyma oedd mynedfa swyddogol y capel.[3] Roedd yr adeilad sy'n wynebu Shaftesbury Avenue yn gartref i lyfrgell y capel. Mae'n dŷ pedwar llawr o frics coch a gynlluniwyd i atgoffa rhywun o bensaernïaeth ddomestig ganoloesol Bruges.[3]

Rhestrwyd y capel yn adeilad rhestredig Gradd II ar Restr Treftadaeth Genedlaethol Lloegr ym mis Chwefror 1982.[1]

Hanes

Thumb
Mynedfa gefn y capel ar Shaftesbury Avenue

Cymerodd Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig y safle ar brydles oddi wrth y Bwrdd Gwaith Metropolitanaidd Llundain ym mis Tachwedd 1886.[4] Roedd creu Shaftesbury Avenue ym 1884 gan y Bwrdd Gweithfeydd Metropolitan wedi golygu bod angen symud o gapel blaenorol y grŵp yn Nassau Street (Gerrard Place erbyn hyn). Daeth rhydd-ddaliad y safle i feddiant y grŵp oddi wrth Gyngor Sir Llundain ym 1889.[4] Y briodas gyntaf yn y capel oedd rhwng yr addysgwr Dilys Glynne Jones (ganed Davies) a John Glynne Jones o Fangor.[5]

Cyn yr Ail Ryfel Byd y capel oedd â'r presenoldeb wythnosol mwyaf o blith holl gapeli Cymraeg Llundain. Ym 1903 mynychwyd gwasanaeth Sul yn y capel gan 623 o bobl.[6] Roedd y capel yn cael ei weld fel y mwyaf 'ffasiynol' o gapeli Cymraeg Llundain oherwydd ei leoliad yn y West End. Mynychwyd y gwasanaethau gan bobl fusnes amlwg o Gymru, gwleidyddion, a chyfreithwyr o Lundain.[6] Roedd y gweinidog llywyddol, Peter Hughes Griffths, yn enwog yn ei Gymru enedigol a gwasanaethodd fel gweinidog y capel o 1902 hyd ei farwolaeth yn 1937.[6] Y capel hwn oedd y cyntaf o'r capeli Cymraeg yn Llundain i gau.[6] Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn y capel ar 9 Gorffennaf 1982.[7] Fe'i gwerthwyd ym mis Mawrth 1985 am £1 miliwn.[8]

Yn y 1980au y capel oedd safle clwb nos Limelight, a welodd berfformwyr fel Boy George a Duran Duran yn y lleoliad.[1] Wedi hynny daeth yn gangen o gadwyn tafarndai thema Awstralia Walkabout.[1] Fe'i prynwyd gan ddyngarwr o Wcráin yn 2011; mae'n eiddo i'r elusen Stone Nest.[9][2][10] Cafodd Stone Nest gymeradwyaeth gan Gyngor Dinas Westminster yn 2018 i drawsnewid y safle yn ofod ar gyfer y celfyddydau perfformio yn ogystal â chynnal bwyty a bar.[2]

Ym mis Tachwedd 2023 rhoddwyd yr hen gapel a thŷ'r gweinidog ar werth trwy Knight Frank, am bris canllaw o £14,750,000.[11]

Cofeb i aelodau a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd

Ceir cofnod o gofeb Rhyfel i aelodau'r capel bu farw yn yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel Corea yn yr Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd. Arno ceir y geiriau: MEWN COF ANNWYL/ AM/ EIN BECHGYN 1939 - 1945/ (enwau)/ CARIAD MWY NA HWN NID OES GAN NEB/ (enw)/. Gwasanaethodd 14 yn yr Ail Ryfel Byd gyda saith yn cael eu lladd, gyda dau yn gwasanaethu yn Corea ac un yn cael ei ladd.[12]

Y Gorlan

Thumb
Peter Hughes Griffiths Gweinidog y Capel o 1902 hyd ei farwolaeth yn 1937

Cyhoeddodd y capel ei chylchgrawn ei hun o'r enw Y Gorlan. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd newyddion o'r capel a'r ysgol Sul, ynghyd ac erthyglau crefyddol. Ymhlith golygyddion y cylchgrawn oedd y gweinidogion Peter Hughes Griffiths (1871-1937), Ebenezer Gwyn Evans (1898-1958) a J. B. Jenkins. Roedd yn wreiddiol yn gylchgrawn misol daeth yn un chwarterol rhwng 1941-1953 a 1966-1982, ac yn daufisol rhwng Mai 1953 a Thachwedd 1965.[13]

Cyn aelodau Nodedig

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.