Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cangen o Brotestaniaeth Diwygiedig yw Presbyteriaeth (benthyciad Saesneg o'r Hen Roeg πρεσβύτερος "henadur" trwy Ladin) â'i gwreiddiau yn Ynysoedd Prydain. Daw'r enw Presbyteraidd o ffurf bresbyteraidd ar lywodraeth eglwysig, sef bod eglwysi'n cael eu llywodraethu gan gynulliadau o flaenoriaid sy'n cynrychioli'r aelodau. Trefnir llawer o eglwysi diwygiedig fel hyn, ond mae'r gair "Presbyteraidd" â blaenlythren yn cyfeirio'n amlach at yr eglwysi â'i gwreiddiau yn eglwysi'r Alban a Lloegr a oedd yn defnyddio'r enw ac yn y grwpiau gwleidyddol a ffurfiodd yn Rhyfel Cartref Lloegr.[2]
Mae diwinyddiaeth Bresbyteraidd yn tueddu i bwysleisio sofraniaeth Duw, awdurdod yr Ysgrythurau ac anghenraid gras trwy ffydd yng Nghrist. Sicrhawyd llwyodraeth eglwysig Bresbyteraidd yn yr Alban gan Ddeddfau Uno 1707[3] a greodd Deyrnas Prydain Fawr. Mewn gwirionedd, gall y rhan fwyaf o Bresbyteriaid yn Lloegr olrhain cyswllt â'r Alban, ac fe aethpwyd â'r enwad i Ogledd America hefyd gan fewnfudwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae enwadau Presbyteraidd yr Alban yn glynu at ddiwinyddiaeth Jean Calvin a'i olynwyr uniongyrchol, er bod ystod barn ddiwinyddol o fewn Presbyteriaeth heddiw.
Caiff cynulleidfaoedd lleol o dan lywodraeth bresbyteraidd eu rheoli gan sesiynau o gynrychiolwyr o'r gynulleidfa, sef y blaenoriaid. Defnyddir y dull ymgynghorol hwn wrth wneud penderfyniadau ar lefelau eraill hefyd: yn yr henaduriaeth, y synod a'r gymanfa gyffredinol.
Mae gwreiddiau Presbyteriaeth yn Niwygiad Protestannaidd y 16g, a dylanwad Genefa Jean Calvin yn arbennig o gryf. Mae'r mwyafrif o eglwysi Diwygiedig sy'n olrhain eu hanes yn ôl at yr Alban naill ai'n Bresbyteriaid neu'n Annibynwyr yn eu llwyodraeth. Yn yr 20g, chwaraeodd rhai Presbyteriaid rôl blaengar yn y Mudiad Eciwmenaidd, gan gynnwys yng Nghyngor Eglwysi'r Byd. Mae llawer o enwadau Presbyteraidd wedi canfod ffyrdd o gydweithio ag enwadau Diwygiedig eraill ac â Christnogion o draddodiadau eraill, yn enwedig yng Nghymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd. Mae rhai eglwysi Presbyteraidd wedi uno ag eglwysi eraill, fel Annibynwyr, Lwtheriaid, Anglicaniaid a Methodistiaid.
Mae hanes Presbyteriaeth yn rhan o hanes Cristnogaeth, ond dechreuodd Presbyteriaeth fel mudiad pendant yn Niwygiad Protestannaidd y 16g. Wrth i'r Eglwys Gatholig wrthwynebu'r diwygwyr, dechreuodd yr Eglwys yng Ngorllewin Ewrop hollti ac roedd gan fudiadau diwinyddol gwahanol enwadau gwahanol. Cafodd Jean Calvin, y diwinydd o Ffrainc a ddatblygodd ddiwinyddiaeth Ddigwygiedig, ddylanwad mawr ar Bresbyteriaeth, yn ogystal â gwaith John Knox, Albanwr a fu'n astudio gyda Calvin yng Ngenefa ac a ddaeth â'i athrawiaethau'n ôl i'r Alban. Yn Alban a Lloegr mae gwreiddiau'r eglwys Bresbyteraidd heddiw. Ym mis Awst 1560 mabwysiadodd Senedd yr Alban Gyffes yr Alban yn ei chyffes swyddogol ac yna ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd y Llyfr Disgyblaeth Cyntaf, a amlinellai faterion athrawiaethol pwysig ond hefyd a sefydlodd rheolau llwyodraeth eglwysig, gan gynnwys creu teg rhanbarth eglwysig ag arolygwyr penodedig a alwyd wedyn yn henaduriaethau.[4]
Yn nes ymlaen, Cyffes Ffydd Westminster a'r Catecismau Mwyaf a Byrraf a ddisodlodd Gyffes yr Alban. Lluniwyd y cyffes a'r catecismau hyn gan Gymanfa Westminster rhwng 1643 a 1649.
Mae Presbyteriaid yn wahanol i enwadau eraill yn eu hathrawiaeth, trefn eu heglwysi a'u haddoliad, a byddant yn aml yn defnyddio "Llawlyfr Trefn a Rheolau" i reoli hyn. Yng Nghalfiniaeth mae gwreiddiau eglwysi Presbyteraidd. Daw llawer o ganghennau o Bresbyteriaeth o grwpiau a oedd wedi ymadael â grwpiau mwy. Mae rhai wedi gadael oherwydd dadleuon athrawiaethol, ac eraill o ganlyniad i anghytuno â chymaint y dylai'r rhai a ordeinir yn swyddogion eglwys gytuno â Chyffes Ffydd Westminster. Dyma ddogfen gyffesol o bwys hanesyddol mewn eglwysi Presbyteraidd, a ddaw'n ail i'r Beibl yn unig ond sy'n rheoli elfennau o safoni a chyfieithu'r Beibl.
Mae addysg a dysgu gydol oes yn bwysig iawn i Bresbyteriaid. Astudio'r Ysgruthurau'n gyson, llyfrau diwinyddol a deall a dehongli athrawiaeth yr eglwys yn rhan a ymgorfforir mewn sawl catecism a datganiad o ffydd wedi'u mabwysiadu gan wahanol ganghennau o'r eglwys, o'r enw 'safonau isradd'. Yn gyffredinol, diben y dysgu hwn yw galluogi Cristnogion i roi eu ffydd ar waith; mae rhai Presbyteriaid yn dangos eu ffydd mewn gweithredodd yn ogystal â mewn geiriau yn eu haelioni a'u lletygarwch a thrwy ymddiddori mewn cyfiawnder a diwygio cymdeithasol, a hefyd wrth ddatgan efengyl Crist.
Cynghorau o flaenoriaid sy'n llywodraethu eglwysi Presbyteraidd. Mae blaenoriaid sy'n dysgu a blaenoriaid sy'n rheoli yn cael eu hordeinio ac maent yn ymgynnull yn y cyngor isaf o'r enw sesiwn, sy'n gyfrifol am ddisgyglu a meithrin y gynulleidfa leol ac am ei chenhadaeth. Mae blaenoriaid sy'n dysgu, sef bugeiliaid neu weinidogion, yn gyfrifol am ddysgu, addoliad a chyflawni'r sacramentau. Gelwir bugeiliaid gan gynulleidfaoedd unigol. Bydd cynulleidfa yn datgan ei dymuniad am wasaneth y bugail, ond yr henaduriaeth leol sy'n gorfod cadarnhau hyn.
Lleygwyr (dynion fel arfer, ond merched hefyd mewn rhai cynulleidfaoedd) yw blaenoriaid sy'n rheoli ac fe'u hethlolir gan y gynulleidfa a'u hordeinio i wasanaethu gyda'r blaenoriaid sy'n dysgu, gan gymryd arnynt gyfrifoldeb am feithrin ac arwain y gynulleidfa. Yn aml mewn cynulleidfaoedd mawr, bydd y blaenoriaid yn dirprwyo awdurdod am bethau ymarferol fel adeiladau, cyllid a gweinidogaeth dymhorol i aelodau anghenus y gynulleidfa i grŵp penodol o swyddogion, weithiau o'r enw deaconiaid, sy'n cael eu hordeinio mewn rhai enwadau.
Uchwben y sesiynau mae henaduriaethau, sy'n gyfrifol am yr ardal. Maent yn cynnwys blaenoriaid sy'n dysgu a'r rhai sy'n rheoli o blith pob cynulleidfa yn yr ardal. Mae'r henaduriaeth yn anfon cynrychiolwyr i gynulliadau rhanbarthol neu genedlaethol mwy, o'r enw Cymanfa Gyffredinol, er gall fod cam yn y canol weithiau o'r enw synod. Mae trefn cynulleidfa > henaduriaeth > synod > Cymanfa Gyffredinol yn seiliedig ar strwythur hanesyddol yr eglwysi Presbyteraidd mwy, megis Eglwys yr Alban neu'r Eglwys Bresbyteraidd (UDA). Mae rhai cyrff, fel yr Egwlys Bresbyteraidd yn America a'r Eglwys Bresbyteraidd yn Iwerddon, yn hepgor un o'r camau rhwng y gynulleidfa a'r Gymanfa Gyffredinol, fel arfer y synod. Mae Eglwys yr Alban wedi diddymu'r synod yn gyfan gwbl.
Dilynir llywodraethu Presbyteraidd gan enwadau Presbyteraidd a chan lawer o eglwysi Diwygiedig eraill hefyd.[5]
Traddodiad cyffesol yw Presbyteriaeth yn ei hanes, felly mae dau oblygiad i hyn. Yr un amlycaf yw bod eglwysi cyffesol yn mynegi'u ffydd ar ffurf "cyffes ffydd", sydd â rhywfaint o statws awdurdodol. Er hynny, mae hyn yn seiliedig ar bwynt mwy cynnil, sef, mewn eglwysi cyffesol, nid mater i unigolion yw diwinyddiaeth. Er yr anogir unigolion i ddeall yr Ysgrythurau, a cânt herio dealltwriaeth gyfredol y sefydliad, cyflawnir diwinyddiaeth gan y gymuned yn ei gyfanrwydd. Dealltwriaeth gymunedol o ddiwinyddiaeth sy'n cael ei fynegi mewn cyffesion.[6]
Er hyn, mae sawl modd o drin cyffesoliaeth wedi codi. Mater ymarferol yw'r ffordd o arddel cyffes neu cymaint y mae'r safonau swyddogol yn sefydlu gwir athrawiaeth yr eglwys. Hynny yw, mae'r penderfyniadau wedi'u gwneud mewn ordinhad ac yn llysoedd yr eglwys yn sefydlu'n fras yr hyn mae'r eglwys yn ei olygu, dan gynrychioli'r gymuned gyfan, wrth lynu wrth y safon athrawiaethol.
Mae rhai traddodiadau Presbyteraidd wedi mabwysiadu Cyffes Ffydd Westminster yn unig fel safon eu hathrawiaeth ac mae'n rhaid i flaenoriaid sy'n dysgu fod yn gytûn â hi, yn wahanol i'r catecismau Mwyaf a Lleiaf, sy'n addas ar gyfer hyfforddi. Mae llawer o enwadau Presbyteraidd, yn enwedig yng Ngogledd America, wedi mabwysiadu Safonau Westminster yn eu crynswth fel safon eu hathrawiaeth sy'n isradd i'r Beibl. Mae'r dogfennau hyn yn Galfinaidd yn eu natur athrawiaethol. Mae Eglwys Bresbyteraidd Canada wedi cadw Cyffes Ffydd Westminster yn ei ffurf wreiddiol wrth ddweud, ar yr un pryd, y dylid cofio'r cyfnod hanesyddol y'i hysgrifennwyd ynddi wrth ei darllen heddiw.
"Prif safon isradd Eglwys yr Alban" yw Cyffes Westminster, ond â "pharch priodol i ryddin barn mewn pwyntiau nad ydynt yn rhan o sylwedd y Ffydd". Cynrychiola'r datganiad hwn flynyddoedd lawer o ddadlau dros faint y mae'r cyffes yn adlewyrchu Gair Duw a brwydr cydwybod y sawl nad oeddent yn credu ei bod hi'n ei gwneud yn llwyr, e.e. William Robertson Smith. Nid oes gan bob eglwys Bresbyteraidd "gymal cydwybod", e.e. Eglwys Rydd yr Alban.
Mae'r Eglwys Bresbyteriad (UDA) wedi mabwysiadu Llyfr y Cyffesion, sy'n adlewyrchu cynnwys cyffesion Diwygiedig eraill yn ogystal â Safon Westminser. Ymhlith y dogfennau eraill hyn mae datganiadau credoau (Credo Nicea, Credo'r Apostolion), cyffesion Diwygiedig y 16g (Cyffes yr Alban, Cyffes Heidelberg, Ail Gyffes y Swistir) a dogfennau'r 20g (Datganiad Diwynyddol Barmen, Cyffes 1967, Datganiad Byr o Ffydd).
Datblygodd yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghanada ddogfen gyffesol Living Faith (1984) ac mae'n ei chadw'n safon isradd yr enwad. Ffurf gyffesol sydd arni ond, yn yr un modd â Chyffes Westminster, mae'n tynnu sylw at destun gwreiddiol y Beibl.
Bu i'r Presbyteriaid yn Iwerddon a ymwrthododd â Chalfiniaeth a Chyffesion Westminster ffurfio Eglwys Bresbyteraidd Anghefnogol Iwerddon.
Bydd enwadau Presbyteraidd sy'n olrhain eu hanes i Ynysoedd Prydain yn trefnu oedfaon eu heglwysi yn ôl egwyddorion Cyfeirlyfr Addoliad Cyffredin fel arfer, a ddatblygwyd gan Gynulliad Westminster yn y 1640au. Roedd y cyfeirlyfr hwn yn dogfennu diwinyddiaeth ac ymarferion addoliad Diwygiedig a oedd wedi'u mabwysiadu a'u datblygu dros y ganrif flaenorol gan Biwritaniaid Prydain, a arweiniwyd yn gyntaf Jean Calvin a John Knox. Fe'i gwnaeth Senedd yr Alban yn gyfraith ac fe ddaeth yn un o ddofennau sylfaenol deddfwriaeth yr eglwys Bresbyteraidd mewn mannau eraill hefyd.
Yn hanesyddol, Egwyddor Reolaethol Addoliad sy'n rheoli datblygiad safonau addoliad Presbyteraidd, sy'n nodi'r sydd wedi'i orchymyn a'i wahardd mewn addoliad.[7]
Dros y canrifoedd canlynol, bu i lawer o eglwysi newid y rheolau hyn drwy gyflwyno canu emynau, cyfeiliant gan offerynnau a urddwisgoedd defodol mewn addoliad. Serch hynny, nid oes un arddull addoli Presbyteraidd sefydlog. Er y ceir oedfaon gosod am Ddydd yr Arglwydd, gall un oedfa fod yn efengylaidd neu'n ddiwygiadol ei naws, yn enwedig mewn rhai enwadau ceidwadol, neu'n nodweddiadol o litwrgïol, yn debyg i ymarferiad Lwtheriaeth neu Anglicaniaeth, yn enwedig yn nhraddodiad yr Alban, neu'n lled-ffurfiol yn gadael cydbwysedd o emynau, pregethu a chyfrianiad y gynulleidfa, sy'n gyffredin yn eglwysi Presbyteraidd America. Mae'r mwyafrif o eglwysi Presbyteraidd yn dilyn y flwyddyn litwrgïol draddodiadol ac maent yn cadw'r gwyliau traddodiadol megis yr Adfent, y Nadolig, Dydd Mercher y Lludw, y Pasg, Wythnos y Pasg, y Pentecost ymhlith eraill. Byddant yn defnyddio'r lliwiau litwrgïol tymhorol perthnasol hefyd ac yn cynnwys hen weddïau ac ymatebion litwrgïol yng ngwasanaeth y cymun a dilyn llithlyfr dyddiol, tymhorol a gwyliol. Ar y llaw arall, yn ôl yr Egwyddor Reolaethol, mae Presbyteriaid Diwygiedig yn canu salmau'n unig yn ddigyfeiliant yn ogystal ag ymgadw rhag dathlu gwyliau sanctaidd.
Yn draddodiadol, mae Presbyteriaid yn glynu at y farn mai dim ond dau sacrament sydd:
Yn wahanol i lawer o enwadau sy'n bedyddio plant ar sail adfwyiad bedyddiol, bydd Presbyteriaid, yn ogystal ag eglwysi Diwygiedig y Cyfandir, yn bedyddio plant oherwydd bod plant yr Hebreaid yn cael eu henwaedu i ddangos eu bod yn perthyn i gymuned y cyfamod, ac felly dylai plant rheni sy'n credu gael eu bedyddio hefyd.
Roedd y Presbyteriaid cynnar yn gwahaniaethu rhwng yr "eglwys", hynny yw, yr aelodau, a'r "tŷ cwrdd", sef yr adeilad lle y byddent yn cwrdd.[8] Hyd at ddiwedd y 19g, anaml iawn y byddai Presbyteriaid yn cyfeirio at eu hadeiladau fel "eglwysi". Credai Presbyteriaid mai adeiladau i gefnogi gwaith Duw oedd tai cwrdd hyn, a oedd yn blaen iawn a diaddurn mewn rhai achosion er mwyn peidio â thynnu sylw o'r addoli. Nid oedd gwydr lliw, arddurniadau cymhleth na delweddau o bobl mewn addoldai Presbyteraidd cynnar. Yn aml, roedd y pulpud wedi'i godi ac roedd ganddo risiau i'w gyrraedd, a hwnnw oedd canolbwynt yr adeilad.
Ar ddiwedd y 19g, dechreuodd pethau newid yn raddol. Bu cynulleidfaoedd yn adeiladau eglwysi mawreddog, fel eglwysi Fourth Presbyterian yn Chicago, Madison Avenue Presbyterian a Fifith Avenue Presbyterian yn Ninas Efrog Newydd, Shadyside Presbyterian ac East Liberty Presbyterian Church yn Pittsburgh, First Presbyterian yn Dallas, House of Hope Presbyterian yn Saint Paul, Minnesota ymhlith eraill.
Mae pensaernïaeth Bresbyteraidd yn tueddu i ddefnyddio symbolaeth. Fel arfer, ni fydd cerfluniau o seintiau mewn eglwys Bresbyteraidd, nac allor addurnol yr eglwysi Catholig. Yn hytrach na hyn, ceir bwrdd cymun, sydd ar yr un lefel â'r gynulleidfa fel arfer. Mae hyn oherwydd safbwynt diwinyddol Presbyteriaid, pan fyddant yn anghytuno â'r gred bod yr Iesu'n cael ei ailaberthu ymhob offeren. Efallai y bydd rheilen rhwng y bwrdd a'r gangell y tu ôl iddo, a allai gynnwys bwrdd mwy addurnol fel allor, seddau i gôr, darllenfa neu fan y clerigwyr. Y tu ôl i'r gangell, ni cheir croes a cherflun o'r Iesu arni fel arfer, ond efallai y bydd croes ddigerflun ar y bwrdd cymun neu ar fwrdd arall yn y gangell. Defnyddir y groes blaen hyn er mwyn pwysleisio nad yw Crist yn marw drachefn a thrachefn, ond iddo farw unwaith, cael ei atgyfodi a'i fod yn fyw nawr yn dragywydd. Er hynny, mewn rhai eglwysi Presbyteraidd gellir gweld ffenestri sy'n dangos bywyd Iesu Grist a'i groesholiad y tu ôl i'r gangell.
Bydd bedyddfaen wrth fynedfa eglwys neu yn ymyl y gangell.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.