Calcwlws
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cangen o fathemateg sy'n canolbwyntio ar derfynau, ffwythiannau, deilliadau, ac integrynnau ydyw calcwlws. Ystyr gwreiddiol y gair Lladin calculus yw 'carreg gron', a ddefnyddid i gyfrif a chyfrifo e.e. ar abacws.
Enghraifft o'r canlynol | maes o fewn mathemateg |
---|---|
Math | mathemateg datblygedig, dadansoddiad mathemategol |
Yn cynnwys | calcwlws differol, Calcwlws integrol |
Rhagflaenydd | sublime calculation |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae iddi ddwy brif gangen, sef calcwlws differol a chalcwlws integrol, sydd yn perthyn i'w gilydd o ganlyniad i theorem sylfaenol calcwlws.[1][2] Yn y bôn, yr astudiaeth o newid yw calcwlws, yn yr un modd ag y mai geometreg yn astudiaeth o siâp, ac algebra yn astudiaeth o weithredoedd mathemategol a'u defnydd wrth ddatrys hafaliadau.
Yn gyffredinol, tybir i galcwlws gael ei ddatblygu'n bennaf yn yr 17g gan Isaac Newton a Gottfried Wilhelm Leibniz.[3] Mae iddo lawer o ddibenion beunyddiol, heddiw, mewn gwyddoniaeth ac economeg.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.