Caer y Twr

From Wikipedia, the free encyclopedia

Caer y Twr

Bryngaer neu bentref caerog yw Caer y Twr wedi'i lenoli ar ben Mynydd Twr sef pwynt uchaf Ynys Gybi a'r bryn uchaf ym Môn. Lleoliad cyfeiriad grid SH218829.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Caer y Twr
Thumb
Rhan o waliau allanol carreg Caer y Tŵr
Mathbryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig 
LL-Q9309 (cym)-RandomWilliams1908-Caer y Twr (Q5016875).wav 
Daearyddiaeth
SirTrearddur 
Gwlad Cymru
Cyfesurynnau53.3141°N 4.6742°W 
Cod OSSH219830, SH2185482942 
Rheolir ganCadw 
Thumb
PerchnogaethCadw 
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru 
Manylion
Dynodwr CadwAN019 
Cau

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN019.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Mae'n dyddio i tua'r 2g OC ac yn amgáu tua 6.87 hectar (17 erw) o dir. Garw ac anwastad yw'r tir oddi mewn a does dim olion o'r cytiau heddiw. Ceir caeau bychain ar ffurf terasau i'r gogledd-orllewin, tu allan i'r gaer. Mae'r mur amddiffynnol i'w gweld ar ei orau ar yr ochr ogleddol, gyda thrwch o 13 troedfedd a mur allanol sy'n cyrraedd 19 troedfedd o uchder gyda cherddedfa i'r amddiffynwyr tua llathen yn uwch na'r llawr mewnol.[2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.