Ynys Gybi

From Wikipedia, the free encyclopedia

Ynys Gybi

Ynys oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw Ynys Gybi (Saesneg: Holy Island). Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu 15.22 milltir sgwâr. Fe'i henwir ar ôl Sant Cybi, nawddsant Caergybi. Ceir nifer sylweddol o safleoedd hynafol ar yr ynys, yn feini hirion, siambrau claddau a chytiau'r Gwyddelod a safleoedd cysylltiedig â Christnogaeth gynnar ac olion Celtaidd. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae gan Ynys Gybi boblogaeth o 13,659 ac roedd 11,431 (84%) o'r boblogaeth yn byw yng Nghaergybi ei hun.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Ynys Gybi
Thumb
Mathynys 
PrifddinasCaergybi 
Poblogaeth13,659 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Prydain 
SirYnys Môn 
Gwlad Cymru
Arwynebedd39.4 km² 
GerllawMôr Iwerddon 
Cyfesurynnau53.2833°N 4.6167°W 
Hyd12.3 cilometr 
Gwleidyddiaeth
Thumb
Cau

Daearyddiaeth

Y dref fwyaf ar yr ynys yw Caergybi, sy'n borthladd pwysig ers canrifoedd a lleoliad yr harbwr ar gyfer y llongau fferi i Iwerddon. Mynydd Twr (722 troedfedd, 220 m) yw bryn uchaf Ynys Gybi a gweddill Môn.

Ceir nifer o glogwynni ar hyd yr arfordir gorllewinol gydag ynysoedd bychain fel Ynys Lawd, gyda'i goleudy enwog, ac Ynys Arw. Cafwyd nifer o londdrylliadau dros y blynyddoedd. Mae tua 30 milltir o Lwybr Arfordirol Ynys Môn (sy'n 125 milltir o hyd) i'w gael o amgylch Ynys Gybi.

Gelwir y llain o fôr sy'n gwahanu Ynys Gybi a gweddill Môn yn Fae Cymyran, sy'n cynnwys y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru a elwir yn Feddmanarch-Cymyran, ac a gofrestrwyd yn 1 Ionawr 1961 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1]

Thumb
Mynydd Twr yw pwynt uchaf Ynys Gybi a Môn

Cludiant

Cysylltir Ynys Gybi â thir mawr Môn gan sarnau sy'n dwyn y briffordd A5/A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n cysylltu Caergybi â Chaer a Llundain, a phont wreiddiol yr hen ffordd doll (A5). Yn ogystal ceir Pontrhydybont, a groesir gan ffordd 'B' ac sy'n llawer llai.

O Gaergybi mae gwasanaethau fferi ar gael i Dún Laoghaire a Dulyn, yn Iwerddon.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.