clwb-pêl droed, Nid yr un un â Thref Cwmbrân From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed yw Cwmbrân Celtic FC. Mae wedi ei leoli yn nhref Cwmbrân,Torfaen yn yr hen sir Gwent. Mae Cwmbrân Celtic yn dîm gwahanol i glwb Tref Cwmbrân a fu'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru yn yr 1990au.
Enw llawn | Cwmbran Celtic Football Club | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | The Celts | ||
Sefydlwyd | 1925 | ||
Maes | Celtic Park, Cwmbran NP44 3YS (sy'n dal: 400) | ||
Cadeirydd | Scott Kinsella (gweithredol) | ||
Rheolwr | Lee Challenger | ||
Cynghrair | Cynghrair Cymru (Y De) | ||
2023/24 | 9. | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Mae'r tîm cyntaf yn chware yng Adran Un Cynghrair Cymru (Y De) (Welsh League)[1] a'r ail dîm yng nghynghrair ail dimau Cynghrair Cymru (Y De). Ceir hefyd tîm menywod sy'n chwarae yng Nghynghrair Menywod De Cymru, a thîm dros 45 oed sy'n chwarae yn Cynghrair Veterans Cymru.
Mae'r timau i gyd yn chwarae yn Celtic Park, Henllys Way, Cwmbrân, sydd drws nesa i Stadiwm Cwmbrân
Ffurfiwyd y clwb yn 1925 fel CYMS (Catholic Young Men's Society)[2] gan chwarae, i gychwyn yng Nghynhrair Casnewydd a'r Cylch ('Newport & District League') ac ennill teitl Adran 2 Rhan A yn 1925–26. Rhwng 1930 a 1939 chwaraeodd y clwb yng Nghynhrair Gwent. Wedi'r Ail Ryfel Byd aeth y clwb nôl i chwarae yng Nghynghrair Casnewydd a'r Cylch gan ennill y Brif Adran yn 1950–51.
Yn yr 1960au cynnar newidiwyd enw'r clwb i Cwmbran Catholics ac yn 1972 newidiwyd yr enw eto i'r enw cyfredol, Cwmbran Celtic.
Prynodd y clwb ei safle ar Oak Street, Hen Gwmbran yn 1979 a dyna bencadlys y clwb. Arferai maes chwarae'r clwb fod ar Cwmbran Park ond oherwydd trafferthion draenio'r tir symudwyd y maes chwarae i feysydd y tu allan i Stadiwm Cwmbrân sy'n cael eu rhannu gyda Chlwb Criced Cwmbrân. Symudodd y clwb criced, maes o law, i Gaerleon a rhoddwyd les ar y maes i Celtic.
Mae Cwmbrân Celtic yn chwarae yn Adran Un Cynghrair Cymru. Dyma'r adran ar gyfer timau De Cymru sy'n bwydo fewn i Uwch Gynghrair Cymru, sef, prif adran system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dyrchafwyd y clwb i Adran Tri Cynghrair Cymru, Y De (y Welsh League) yn 2004-05. Dilyn dyrchafiad, chwaraeodd y clwb yn Adran Un am y to cyntaf yn nhymor 2010-11.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.