rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Bwncath (hefyd Boncath a Boda; Lladin: Buteo buteo) yn aderyn ysglyfaethus sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o Ewrop, Asia ac, yn y gaeaf, Affrica. Mae tua 51–57 cm o hyd a rhwng 110 a 130 cm ar draws yr adenydd. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, on mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn.
Bwncath | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Falconiformes |
Teulu: | Accipitridae |
Genws: | Buteo |
Rhywogaeth: | B. buteo |
Enw deuenwol | |
Buteo buteo (Linnaeus, 1758) | |
Y rhannau o'r byd lle ceir y Bwncath – Glas: gaeafu yn unig; Gwyrdd golau: yn yr haf yn unig; Gwyrdd tywyll: trwy'r flwyddyn. |
Mae fel rheol yn nythu mewn coeden, ond yn hela dros dir agored. Oherwydd hyn, mae'n hoffi tiriogaeth lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Mae'n bwyta mamaliaid bach yn bennaf, yn cynnwys llygod, llygod mawr a chwningod, ond mae hefyd yn bwyta anifeiliad wedi marw, cywion adar a phethau eraill.
Fel rheol gellir gweld pâr neu ddau bâr o Fwncathod yn troelli yn yr awyr uwchben eu tiriogaeth yn y ganwyn, ac yn tynnu sylw trwy eu galwadau piii-âw, nid annhebyg i gathod. Ambell dro gellir gweld mwy ohont gyda'i gilydd, weithiau hyd at 40 ar y tro.
Yng Nghymru yr oedd y Bwncath wedi mynd yn aderyn prin erbyn dechrau'r 20g, i raddau helaeth oherwydd ei fod yn cael ei ddifa gan giperiaid. Bellach mae amddiffyniad cyfreithiol iddo ac mae wedi dod yn aderyn cyffredin iawn trwy Gymru, ac yn lledaeni i'r dwyrain. Mae'n fwy cyffredin ar dir cymharol isel nag yn y mynyddoedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.