rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Aelod o'r genws Pyrrhocorax yn nheulu'r brain yw'r Frân goesgoch (enw gwyddonol: Pyrrhocorax pyrrhocorax; Saesneg: Red-billed chough).
Brân goesgoch | |
---|---|
Recordiad o'r Frân goesgoch yng Ngheredigion | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Corvidae |
Genws: | Pyrrhocorax |
Rhywogaeth: | P. pyrrhocorax |
Enw deuenwol | |
Pyrrhocorax pyrrhocorax (Linnaeus, 1758) | |
Mae'n aderyn gweddol fawr, 37–41 cm o hyd a 68–80 cm ar draws yr adenydd, ac mae'r pig a choesau coch yn ei wneud yn hawdd ei adnabod. Mae'n nythu ym Mhrydain, de Ewrop yn enwedig yr Alpau, rhannau mynyddig o ganolbarth Asia ac yn yr Himalaya, lle gall fod yn gyffredin iawn, er enghraifft yn Bhutan mae'n un o'r adar mwyaf cyffredin. Ceir hefyd boblogaeth yn ucheldiroedd Ethiopia. Fel rheol mae'n nythu mewn creigiau, un ai yn y mynyddoedd neu ar yr arfordir.
Fe'i ceir hefyd o gwmpas arfordir Ynys Môn, Llŷn a Sir Benfro ac yn y mynyddoedd, yn enwedig yn Eryri.
Yng ngwledydd Prydain mae'n aderyn sy'n gyfyngedig i'r ardaloedd Celtaidd, gorllewin yr Alban, Ynys Manaw, Cymru a Chernyw. Mae'n ymddangos ar arfbais Cernyw ac yn cael ei ystyried yn symbol o'r wlad, ond dim ond yn ddiweddar y mae ychydig o barau wedi dychwelyd i nythu yno ar ôl bod yn absennol am flynyddoedd lawer.
Ymddengys y frân goesgoch ar arfbais Sir Fflint, yn ogystal â bod yn aderyn cenedlaethol Cernyw. Caiff ei dangos hefyd ar arfbais Ysgol Maelor, Llannerch Banna oherwydd roedd y pentref ei hun unwaith oyn cael ei gynnwys yn ffiniau hen Sir Fflint.
Dyma ysgrifennodd Gilbert White yn 1778:
Dyma brawf i frain coesgoch ymledu llawer yn ehangach ar un adeg, gan gynnwys yr ardal yn nrama’r Brenin Llŷr gan Shakespeare, sef Caint. Mae’r mosaic Rufeinig yma o Fila Rufeinig Brading hefyd yn dangos bod brain coesgoch yn byw yn ardal Ynys Wyth ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, tan yr 1880au meddai haneswyr lleol[1]. Ac yng Nghaersallwg (Salisbury) bu tafarn o’r enw The Chough Inn (The Blue Boar erbyn heddiw) sydd yn dyddio’n ôl i’r 19g.
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Pioden | Pica pica | |
Pioden bigfelen | Pica nuttalli Pica nutalli |
|
Sgrech Steller | Cyanocitta stelleri | |
Sgrech borffor | Garrulus lidthi | |
Sgrech las | Cyanocitta cristata | |
Sgrech prysgwydd | Aphelocoma coerulescens | |
Sgrech-bioden dalcenddu | Dendrocitta frontalis | |
Sgrech-bioden yr India | Dendrocitta vagabunda | |
Ysgrech y Coed | Garrulus glandarius |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.