From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Bond hydrogen yn fath o ryngweithiad rhyngfoleciwlaidd pan geir atyniad electrostatig rhwng dau grwp pegynol: atomau hydrogen, cyfalent yn bondio gydag atom hynod o electronegatif, megis nitrogen.[1]
Math | bondio cemegol, association, dipole-dipole interaction |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ei roi mewn geiriau eraill, mae'r ryngweithiad yn digwydd pan fo atom o hydrogen ynghlwm wrth atom electronegatif mewn un moleciwl ac atom electronegatif mewn moleciwl arall.
Mae bondiau hydrogen ar eu cryfaf pan fo'r atomau electronegatif yn rhai nitrogen (N), ocsigen (O) neu fflworin (F) ond gallant hefyd ddigwydd gydag elfennau llai electronegatif megis sylffwr. Bondio hydrogen yw'r rhyngweithiad rhyngfoleciwlaidd sy'n cysylltu moleciwlau dŵr (gw. y diagram ar y dde).
Gall y bondiau hydrogen ddigwydd hefyd rhwng moleciwlau (intermolecular) neu rhwng rannau gwahanol o un foleciwl (intramolecular).[2] Yn ddibynnol ar geometreg a'r amgylchedd, mae cynnwys egni rhydd y bond hydrogen rhwng 1 a 5 kcal/mol. Mae hyn tipyn uwch na rhyngweithiad van der Waals ond yn wanach na bondiau cofalent neu fondiau ionig. Gall ddigwydd mewn moleciwlau anorganaidd (e.e. dŵr) neu foleciwlau organig (e.e. DNA a phrotein).
Yn ei lyfr The Nature of the Chemical Bond mae Linus Pauling yn rhoi'r clod i T. S. Moore a T. F. Winmill am gyfeirio at y bond hydrogen am y tro cyntaf, a hynny yn 1912.[3][4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.