gweinidog Annibynnol From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Benjamin Efans (23 Chwefror, 1740 – 2 Mawrth, 1821) yn weinidog Annibynnol Cymreig ac yn awdur.[1] Mae cyhoeddiadau cyfoes yn sillafu ei gyfenw fel Evans, ond mae cofiannau iddo yn Seren Gomer,[2] a'r Dysgedydd Crefyddol [3] (a gyhoeddwyd ychydig wedi ei farwolaeth) yn defnyddio'r sillafiad Efans.
Benjamin Efans, Trewen | |
---|---|
Ganwyd | 23 Chwefror 1740 |
Bu farw | 2 Mawrth 1821 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Ganwyd Efans yn Ffynnon Adda, plwyf Meline, Sir Benfro yn blentyn i Daniel Efans, ffermwr a phorthmon ac Ann, ei wraig. Cafodd ei addysg gynharaf gartref gan ei fam a dysgodd iddo ddarllen y Beibl yn y Gymraeg a'r Saesneg cyn ei fod yn bum mlwydd oed. Bu mewn ysgol yng Nglandŵr lle dysgodd elfennau gramadeg. O Landŵr aeth i ysgol yng Nghil-maen i ddysgu'r clasuron cyn gorffen ei addysg yn 15 mlwydd oed yn Ysgol Ramadeg Hwlffordd.[3]
Wedi ymadael a'r ysgol bu Efans yn gweithio ar y fferm deuluol hyd ei fod tua 25 mlwydd oed.
Roedd Efans yn dod o deulu crefyddol. Roedd ei dad yn Fedyddiwr a'i fam yn Annibynnwr. Derbyniwyd Efans yn aelod o achos yr Annibynwyr yn Nhrewyddel ym 1764 gan Y Parch Dafydd Griffiths, Llechryd.[2] Gan nad oedd ei dad wedi caniatáu ei fedyddio fel plentyn cafodd ei fedyddio gan Dafydd Griffiths hefyd, ar yr un diwrnod. Bu Efans yn gwasanaethu'r eglwys yn Nhrewyddel fel peroraethwr (codwr canu) o'r cychwyn ac yn fuan darganfuwyd bod ganddo ddoniau gweinidogaethol ac anogwyd ef i ddechrau pregethu.[3] Ar daith bregethu ym Morgannwg rhoddwyd gwybod iddo fod Annibynwyr cylch Llanuwchllyn yn chwilio am weinidog gan y Parch Lewys Rhys,[4] a chymhellwyd iddo i ymgeisio am y swydd.[3] Bu'r ymgais yn llwyddiannus ac ordeiniwyd Efans yn weinidog Llanuwchllyn ym 1769. Roedd tua 60 o aelodau o gapel Llanuwchllyn ar adeg ordeinio Efans ond 600 o "wrandawyr".
Roedd y "gwrandawyr" yn bobl ar wasgar ar hyd Edeirnion, Penllyn, a de Sir Feirionnydd, oedd yn mynychu gwasanaethau achlysurol mewn anheddau, ffermdai, beudai ac ati.[5] Oherwydd erledigaeth roedd rhai o'r cyfarfodydd achlysurol yn cael eu gwahardd gan ynadon heddwch Anglicanaidd. Ym 1772 cafodd Efans dyfarniad Uchel Lys i orfodi'r ynadon lleol i gofrestru tŷ at ddiben addoli yn y Cutiau, ychydig tu allan i'r Bermo.[6] Sefydlwyd y lleoliad fel Capel y Cutiau, Glandŵr, Abermaw ym 1806 [7]
Ym 1777 cafodd Efans problemau iechyd roedd ei feddygon yn credu eu bod yn codi o "niwl a tharth" Llyn Tegid, gan hynny symudodd maes ei weinidogaeth i gylch Hwlffordd. Wedi dwy flynedd yn Hwlffordd symudodd i'r Drewen, Ceredigion lle arhosodd am dros 40 mlynedd hyd ei farwolaeth.
Yn ystod gweinidogaeth Efans dechreuodd y deffroad Methodistaidd a oedd yn hudo rhai oddi wrth achos yr Annibynwyr. Ymateb Efans oedd adfer a helaethu hen gapeli'r Annibynwyr ac i gychwyn achosion newydd. Yn ystod ei gyfnod yn y Drewen bu'n gyfrifol am agor capeli annibynnol newydd gan gynnwys Capel Hawen, Glynarthen; Capel Annibynwyr Blaenannerch; Capel Annibynwyr Penmorfa; Capel Penbryn, Glynarthen;[8] Capel-y-Wig, Pontgarreg; Capel Penrhiwgaled, Cross Inn a Chapel Pisgah.[1]
Roedd Efans hefyd yn chware rhan blaenllaw yn sefydlu achos yr Ysgol Sul ymysg yr Annibynwyr.[6]
Bu'r Bedyddwyr yn dosbarthu traethodau yn dadlau o blaid bedydd oedolion ac yn erbyn bedydd plant yn ne Ceredigion. Roedd y traethodau hyn yn gwneud i rai o aelodau Efans i boeni am werth eu bedydd ac i holi os oedd angen eu bedyddio eto fel oedolion. Mewn ateb i'r pryderon cyhoeddodd Efans gyfres o lythyrau, wedi eu cyfeirio at Y Parchedig Benjamin Francis, gweinidog y Bedyddwyr yn Lloegr oedd yn hanu o Gastellnewydd Emlyn. Cafodd y llythyrau eu hateb trwy lyfryn a gyhoeddwyd gan y Parch Dr William Richards,[9] gweinidog Cymraeg oedd yn byw yn King's Lynn, Swydd Norfolk. Cyhoeddodd Efans ateb i Richards ac atebodd Richards drachefn.[10]
Ysgrifennodd dau lyfryn ym 1789 yn disgrifio dioddefaint caethweision yn Jamaica ac yn condemnio'r arfer o gaethwasanaeth.[11]
Cyfieithodd Social Religion Exemplified Mathias Maurice,[12] i'r Gymraeg o dan y teitl Crefydd Gymdeithasol. Cyhoeddodd hefyd dau gatecism i'r ysgol Sul, pedwar pregeth a nifer o emynau.[10]
Tua diwedd 1768 priododd Efans ag Ann Lloyd, merch y Parch Daniel Lloyd, Brynberian ni fu iddynt blant.[2]
Ym mis Hydref 1820 roedd Efans, "wedi bod yn cysgu mewn gwely llaith" cafodd "cymalwst" (gowt neu grydcymalau) yn ei fraich dde a chollodd ei defnydd (disgrifiad o strôc, mae'n debyg) a bu farw o'r salwch ym mhen 5 mis, yn 81 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion o dan y pulpud yng Nghapel Hawen, Glynarthen. Ysgrifennwyd bywgraffiad Saesneg er cof amdano ym 1826 gan John Bulmer Memoirs and Select Remains of the Rev. Benjamin Evans, of Trewen, Cardiganshire.[13]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.