From Wikipedia, the free encyclopedia
Pêl-droediwr Cymreig yw Benjamin "Ben" Woodburn' (ganwyd 15 Hydref 1999) sy'n chwarae i Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr ac i dîm cenedlaethol Cymru ac yn aelod o dîm ieuenctid Cymru ers oedd yn 13 oed.
Woodburn yn chwarae i Lerpwl (dan 23 oed) yn 2016 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Benjamin Woodburn | ||
Dyddiad geni | 15 Hydref 1999 | ||
Man geni | Nottingham, Lloegr[1] | ||
Safle | Blaenwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Lerpwl | ||
Rhif | 58 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2007–2016 | Lerpwl | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2016– | Lerpwl | 5 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2014 | Cymru o dan 15 | 2 | (0) |
2015 | Cymru o dan 16 | 1 | (3) |
2014–2016 | Cymru o dan 17 | 8 | (1) |
2016– | Cymru o dan 19 | 4 | (2) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 16 Mawrth 2017. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Ym mis Tachwedd 2016, daeth Woodburn yn sgoriwr gôl ieuengaf clwb Lerpwl erioed, a hynny yn ystod ei ail gêm erioed i'w glwb.[2] Enwyd Woodburn yn aelod o garfan Cymru am y tro cyntaf ar 16 Mawrth 2017[3]
Sgoriodd gôl gyda'i gyffyrddiad cyntaf ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ar 2 Medi 2017.[4]
Fe'i ganed yn Nottingham ond symudodd y teulu i Tattenhall, ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mynychodd ysgol Bishop Heber yng Nghaer ac yna Rainhill High School, sef ysgol bêl-droed y Liverpool FC Academy Education Centre.[5] Mae ganddo'r hawl i chwarae i Gymru gan mai Cymraes oedd ei Nain, ar ochr ei fam.[6] Cynigiwyd lle iddo yn nhîm dan-16 Lloegr yn Awst 2014 ond gwrthododd hynny.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.