Pentref hanesyddol a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Bangor-is-y-coed( ynganiad ), hefyd Bangor Is-coed[1] (Saesneg: Bangor-on-Dee).[2] Saif ar Afon Dyfrdwy. Mae cae rasio ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.
Pont Bangor-is-y-coed dros y Ddyfrdwy a'r eglwys leol | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,110, 1,100 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 851.81 ha |
Cyfesurynnau | 53.0035°N 2.9112°W |
Cod SYG | W04000215 |
Cod OS | SJ388454 |
Cod post | LL11 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
- Gweler hefyd Bangor (gwahaniaethu).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4]
Mynachlog Bangor is y Coed
Roedd clas (mynachlog) Bangor is y Coed yn ganolfan crefydd a dysg pwysig iawn yn hanes cynnar Cymru a'r Brydain Geltaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant Dunawd yn y 6g, gyda'i feibion Deiniol Wyn (nawddsant Bangor yng Ngwynedd), Cynwyl a Gwarthan. Roedd y sant wedi ffoi o'r Hen Ogledd a chafodd heddwch a lloches ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno. Daeth yn ganolfan bwysicaf cantref Maelor (a chwmwd Maelor Gymraeg yn ddiweddarach).
Yn ôl yr hanesydd o Sais Beda, cafodd Bangor is y Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl Brwydr Caer (tua 615 neu 616). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin Aethelfrith o Ddeira (Northumbria heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.
Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.
Y pentref
Mae pont pump bwa, Pont Bangor-is-y-coed sy'n dyddio o tua 1660 yn rhychwantu Afon Dyfrdwy yn y pentref; credir iddo gael ei chodi gan y pensaer enwog Inigo Jones.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Bangor-is-y-coed (pob oed) (1,110) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bangor-is-y-coed) (108) | 9.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bangor-is-y-coed) (605) | 54.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Bangor-is-y-coed) (200) | 39.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.