chwaraewr rygbi'r undeb From Wikipedia, the free encyclopedia
Cefnwr rygbi'r undeb o Gymru oedd David Bailey "Beili" Davies (3 Rhagfyr 1884 - 24 Awst 1968).[1] Chwaraeodd rygbi clwb dros Brifysgol Rhydychen, Llanelli a Chymru Llundain a rygbi rhyngwladol dros Gymru.
Bailey Davies | |
---|---|
Ganwyd | 3 Rhagfyr 1884 Llanwenog |
Bu farw | 24 Awst 1968 Hendon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Llanelli |
Safle | Cefnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganwyd Davies yn Llanwenog, Sir Gaerfyrddin [2] yn ail fab Mr Thomas Davies, o Fferm Baileycoch, ger Llanbedr Pont Steffan.[3] Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. O Lanbedr fe aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle bu'n astudio mathemateg cyn graddio ym 1908. Chwaraeodd yn safle'r cefnwr yn nhîm rygbi'r brifysgol ym 1905, 1906 a 1907 a chafodd ei gapio dros Gymru yn erbyn Lloegr ym 1907. [4] Bu ei frawd Austin Davies hefyd yn chware rygbi dros Lanelli
Ar ôl gadael y Brifysgol ym 1908, cafodd ei dderbyn fel meistr cynorthwyol yng Ngholeg Llanymddyfri. Y flwyddyn ganlynol symudodd i Loegr, gan ddod yn feistr cynorthwyol yn Ysgol Merchant Taylors, Llundain, lle bu'n bennaeth ar y Corfflu Hyfforddi Swyddogion [5] ac yn gweithredu fel hyfforddwr Rygbi'r Ysgol.
Cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, penodwyd Davies yn 2il Is gapten yn y Corfflu Hyfforddi Swyddogion. Ym 1917 gwirfoddolodd am wasanaeth gweithredol a chafodd ei bostio i 13eg Catrawd Llundain. Gwasanaethodd yn Ffrainc ac ym 1918 dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo am ddewrder wedi iddo achub milwyr clwyfedig yn ystod patrôl nos chipio 27 o Almaenwyr a dau wn peiriant.[6]
Ar ddiwedd y Rhyfel dychwelodd Davies i Merchant Taylors gan barhau i arwain y Corfflu Hyfforddi Swyddogion. Ym1926 cafodd ei ordeinio yn offeiriad Eglwys Loegr ond parhaodd yn ei swydd fel athro. Pan symudodd yr Ysgol Merchant Taylors o Lundain i Northwood ym 1933 penodwyd Davies yn feistri un o dai preswyl yr Ysgol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n rhedeg uned Gwarchodlu Cartref yr ysgol. Ym 1946 gadawodd Merchant Taylors a aeth yn Rheithor yn Sutton ac Eyeworth, Swydd Bedford, gan barhau yn y swydd hyd 1957.[7] Roedd ei adloniant ar ôl ymddeol yn cynnwys golff a hyfforddi'r tîm rygbi lleol, gan weithredu fel dyfarnwr mewn sawl gêm.
Ymddeolodd i Seer Green yn Swydd Buckingham ac yn ddiweddarach i Hendon,
Brifysgol Rhydychen, gan ennill tri Chrys Glas chwaraeon ym 1905, 1906 a 1907[8] bu'n rhan o'r tîm rhyng golegol a gurodd Caergrawnt ym 1907. [9] Chwaraeodd yn erbyn y Crysau Duon yn ystod eu taith ym 1905 a chafodd ei gapio i Gymru fel cefnwr pan guron nhw Loegr ar 12 Ionawr, yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1907 . [10]
Cymru
Ym 1914 priododd Davies â Elsie Mary (née Pullinger) [11] merch William Henry Russell Pullinger YH , bu iddynt pedair merch
Bu farw yn Hendon yn 83 mlwydd oed amlosgwyd ei weddillion a gwasgarwyd ei ludw ym mynwent ei gyn eglwys yn Sutton. Gosodwyd llechen goffa yn yr eglwys ym 1978, er cof am Davies a’i wraig
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.