Asilah

From Wikipedia, the free encyclopedia

Asilah

Dinas ym Moroco yw Asilah (hefyd weithiau Arzila) (Arabeg: أصيلة، أرزيلة‎), a leolir ar ben gogledd-orllewinol Moroco ar lan y Cefnfor Iwerydd, tua 50 km i'r de o Tanger, yn rhanbarth Tanger-Tétouan. Mae'n dref gaerog a amgylchynir gan fur gyda'r pyrth canoloesol gwreiddiol yn dal yn eu lle.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Asilah
Thumb
Mathurban commune of Morocco, dinas 
Poblogaeth36,039 
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethMohamed Benaissa 
Cylchfa amserUTC+01:00 
Gefeilldref/iSintra 
Daearyddiaeth
SirTangier-Assilah Prefecture 
Gwlad Moroco
Uwch y môr2 metr 
Cyfesurynnau35.47°N 6.03°W 
Pennaeth y LlywodraethMohamed Benaissa 
Thumb
Statws treftadaethTreftadaeth ddiwylliannol Moroco 
Manylion
Cau
Thumb
Asilah

Mae ei hanes yn cychwyn tua 1000 CC, pan gafodd ei defnyddio gan y Ffeniciaid fel porth masnach arfordirol. Roedd yn cael ei adnabod fel Zilis. Cefnogodd y Ziliaid ddinas Carthago yn y Rhyfeloedd Pwnig, ac o ganlyniad fe'u gorfodwyd gan y Rhufeiniaid buddugoliaethus i ymadael a sefydlwyd gwladfa o Iberiaid yn eu lle. Yn y 10g ceisiodd Normaniaid Sisili ei chipio. Bu ymrafael am ei meddiant rhwng rheolwyr Moroco a Portiwgal a Sbaen o 1471, pan gafodd ei chipio gan y Portiwgalwyr, a 1691 pan adfeddianwyd y ddinas o feddiant Sbaen gan y Swltan Moulay Ismail. Bu'n ganolfan i fôr-ladron am gyfnod ar ôl hynny. Erbyn heddiw mae'n gyrchfan gwyliau ffasiynol i Forocwyr ac eraill.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.