cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Khomeyni Shahr yn 1972 From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Asghar Farhadi (ganwyd 7 Mai 1972) yn un o brif gyfarwyddwyr ffilm y byd, un o gyfarwyddwyr prin i ennill Oscar dwywaith gan ennill yn 2012 a 2017 am ffilm orau mewn iaith dramor [1][2]
Asghar Farhadi | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mai 1972 Talaith Isfahan |
Dinasyddiaeth | Iran |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd, cynhyrchydd ffilm |
Adnabyddus am | Am Elly, A Separation, Le passé – Das Vergangene, The Salesman, A Hero |
Priod | Parisa Bakhtavar |
Plant | Sarina Farhadi |
Gwobr/au | Gwobr yr Arth Arian i'r Cyfarwyddwr Gorau, Yr Arth Aur, Gwobr Cesar i'r Ffilm Estron Gorau, Gwobr y Golden Globe i'r Ffilm Iaith Estron Gorau, Asian Film Award for Best Director, Prize of the Ecumenical Jury Cannes, Gwobr Chlotrudis i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Chlotrudis am y Ddrama-sgrin Wreiddiol Orau, Gwobr i'r Sgript Gorau (Gŵyl Ffilm Cannes), Cannes Film Festival Grand Prix |
Fe'i enwyd yn rhestr 2012 cylchgrawn Time yn 'un o bobl mwyaf ddylanwadol y byd'.
Ganwyd yn Homayoon Shahr, talaith Isfahan, Iran (yn dilyn Chwyldro Islamaidd Iran newidiwyd enw'r dref a oedd yn meddwl 'Tref hynod' i Khomeyni Shahr – 'Tref Khomeyni' ar ôl yr Ayatollah Khomeini).
Astudiodd theatr yn y brifysgol yn Tehran ble dechreuodd gwneud ffilmiau ei hun ar gamera 8mm ac 16mm cyn mynd ymlaen i ysgrifennu sgriptiau ffilm a theledu a chynhyrchu rhaglenni teledu.
Yn 2003 cynhyrchodd ei ffilm gyntaf Dancing in the Dust, wedyn The Beautiful City (2004) a Fireworks Wednesday (2006). Yn 2009 daeth i sylw'r byd gyda About Elly a enillodd nifer fawr o wobrau rhyngwladol yn cynnwys cyfarwyddwr gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin.
Daeth Farhadi yn enwog yn y gorllewin am ei ffilm ganlynol A Separation (2011). Enillodd y brif wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin ac Oscar am Best Foreign Language Film – y ffilm cyntaf o'r dwyrain canol i ennill Gwobr Academi Hollywood. Bu torfeydd llawen yn aros i'w groesawu pan ddychwelodd i faes awyr Tehran ond blociodd lywodraeth Iran groeso swyddogol iddo.[3]
Yn 2017 enillodd Oscar unwaith eto am ei ffilm The Salesman ond benderfynodd beidio â mynychu'r seremoni wobrwyo mewn protest yn erbyn gwaharddiad llywodraeth Donald Trump i atal ymwelwyr o sawl gwlad Fwslemiaid.[4]
Mae ffilmiau Farhadi yn ymdrin â themâu elfennol bywyd a chymhlethdodau a dilemâu’r byd modern sydd yn codi rhwng dosbarthiadau cymdeithasol a pherthynas dynion a merched.
Fel llawer o gyfarwyddwyr ffilm gyfoes y wlad mae Farhadi yn adlewyrch tensiwn Iran heddiw. Y tyndra rhwng agweddau modern a thraddodiadau Islamaidd ffwndamentalaidd, rhyddid yr unigolion a chyfyngiadau cymdeithas, rôl merched a chyfrifoldeb teuluol, cyfoeth a dosbarth. Er Enghraifft mae About Elly yn dilyn criw o bobl ifanc dosbarth canol o Tehran yn mynd ar wyliau lan môr a'r problemau sydd yn codi wedi iddynt ddweud bod bachgen hyderus a merch swil yn bâr briod er mwyn cael aros yn y tŷ hâf (mae cyfraith Iran yn atal merched rhag nifer o weithgaredd heb fod yn nghwmni gŵr, tad neu frawd). Mae The Separation yn dilyn cwpl sydd yn mynd trwy ysgariad, eu gwrthdaro, dryswch ac ansicrwydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.