Remove ads
gwleidydd (1883-1915) From Wikipedia, the free encyclopedia
Aelod Seneddol yr Unoliaethwyr dros Gaerdydd a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Lefftenant-Cyrnol Arglwydd Ninian Edward Crichton-Stuart (15 Mai 1883 – 2 Hydref 1915). Fe'i ganed yn Dumfries House, Swydd Ayr[1] yn ail fab i John Crichton-Stuart, 3ydd Marcwis y Biwt a'r Anrhydeddus Gwendolen Mary Anne Fitzalan Howard.
Arglwydd Ninian Crichton-Stuart | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1883 Swydd Ayr |
Bu farw | 2 Hydref 1915 o lladdwyd mewn brwydr Loos-en-Gohelle |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | John Crichton Stuart, 3ydd ardalydd Bute |
Mam | Gwendolen Fitzalan-Howard |
Priod | Ismay Preston |
Plant | Ninian Patrick Crichton-Stuart, Ismay Crichton-Stuart, Claudia Miriam Joanna Crichton-Stuart, Michael Duncan David Crichton-Stuart |
Cafodd Ninian Crichton-Stuart ei eni yn Dumfries House, Swydd Ayr[1] a chafodd ei fagu yng Nghastell Caerdydd[1]. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Harrow ac wedi gadael yr ysgol teithiodd i Rwsia er mwyn dysgu Rwsieg gyda'r gobaith o ddilyn gyrfa yn Gwasanaeth Llysgenhadol[1]. Wedi salwch tra yn Rwsia, dychwelodd gartref er mwyn mynychu Coleg yr Iesu, Rhydychen.
Yn dilyn marwolaeth ei dad, 3ydd Marcwis y Biwt, etifeddodd Falkland House yn Fife ac ar 16 Mehefin 1906, priododd yr Anrhydeddus Ismay Preston merch y diweddar 14eg Is-iarll Gormanston.
Cafodd gomisiwn gyda 3ydd Bataliwn Ucheldirwyr Cameron y Frenhines ym 1903 a gwasanaethodd am ddwy flynedd gyd Bataliwn 1af, y Gwarchodlu Albanaidd ond gadawodd y fyddin ym 1906 er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa wleidyddol. Ym 1907 cafodd ei fabwysiadu'n ymgeisydd yr Unoliaethwyr ar gyfer Bwrdeistrefi Caerdydd, Y Bont Faen a Llantrisant.
Yn ystod Etholiad Cyffredinol mis Ionawr 1910 methiant oedd ei ymgais i ddod yn Aelod Seneddol wrth i David Alfred Thomas o'r Blaid Rhyddfrydol sicrhau mantais o 1,555 dros Crichton-Stuart gyda 13,207 o bleidleisiau[2], ond wedi ymddeoliad Thomas cyn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 1910, llwyddodd Crichton-Stuart i gael ei ethol gyda 12,181 o bleidleisiau - mantais o 299 dros yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Syr Clarendon Golding Hyde[2].
Ym 1910, rhoddodd Crichton-Stuart gefnogaeth mawr i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wrth iddynt chwilio am faes newydd. Er mwyn diolch am ei gefnogaeth, cafodd y maes newydd ei enwi'n Barc Ninian[3]
Ym 1912, cymerodd reolaeth o 6ed Bataliwn Y Gatrawd Cymreig. Bu farw ar faes y gâd ar 2 Hydref 1915 mewn ymosodiad ar Hohenzollern Redoubt ger La Bassée. Ar ôl cipio ffos y gelyn, cafodd Crichton-Stuart ei saethu gan saethwr cudd y gelyn[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.