mynydd (854m) yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Arenig Fawr yn gopa mynydd rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala yn ne-ddwyrain Parc Cenedlaethol Eryri.
Math | mynydd, Hewitt, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 854 metr |
Cyfesurynnau | 52.917125°N 3.745937°W |
Cod OS | SH8270736952 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 479 metr |
Rhiant gopa | Moel Siabod |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Saif i'r de-orllewin o Lyn Celyn ac i'r de o'r briffordd A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala, gyda chopa is Moel Llyfnant i'r de-orllewin ohono. Mae Arenig Fach i'r gogledd, yr ochr arall i'r A4212. Gellir ei ddringo o'r ffordd gefn rhwng Trawsfynydd a Llanuwchllyn, neu o'r ffordd i'r de o Lyn Celyn.
Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 375metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 854m (2802tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Ar ei lethrau mae Llyn Arenig Fawr, ac ar y copa ceir cofeb i griw awyren Flying Fortress o Lu Awyr yr Unol Daleithiau a laddwyd pan darawodd y mynydd yn 1943.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.