Alun Elidyr

actor a aned yn 1959 From Wikipedia, the free encyclopedia

Alun Elidyr

Ffermwr a darlledwr Cymreig yw Alun Edwards, adnabyddir ef fel Alun Elidyr (ganwyd yn 1959), a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Bryncoedifor a Rhydymain, ac yna yn Ysgol y Gader, Dolgellau. Ar hyn o bryd, mae'n cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Alun Elidyr
Thumb
Alun Elidyr yn 2008
Ganwyd1959 
Dinasyddiaeth Cymru
Galwedigaethactor, ffermwr 
Cyflogwr
Cau

Gyrfa actio

Wedi gadael ysgol, aeth yn ei flaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle bu'n astudio drama. Dechreuodd ei yrfa actio gyda Theatr Crwban, a bu'n gweithio i nifer o gwmniau drama wedi hynny gan gynnwys Theatr Bara Caws, Theatrig, Cwmni Theatr Gwynedd, Brith Gof, Dalier Sylw ac Arad Goch. Ymysg ei gynyrchiadau niferus mae Plas Dafydd ac Y Bacchai.

Cafodd Alun gyfnod hefyd yn gweithio fel Darlithydd Drama ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Hyd yn oed cyn iddo ymuno â thîm cyflwyno Ffermio yn Ionawr 2005, roedd yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C gan iddo actio mewn nifer o gynyrchiadau ar y Sianel gan gynnwys Coleg, Yr Heliwr, Y Parc, Rownd a Rownd, Tipyn o Stad a Lleifior, lle bu'n chwarae gwas y fferm, Maldwyn Vaughan.

Bywyd personol

Yn dilyn marwolaeth ei dad, trodd Alun ei gefn ar fyd actio ac ymgymryd ag awenau'r fferm deuluol ger Rhydymain, Dolgellau. Mae'n rhannu'i amser rhwng y fferm deuluol yn Rhydymain â'i gartref yn Nhalybont, Aberystwyth lle mae'n byw gyda'i bartner Catrin a'u merch Elan.[1]

Yn Sioe Llanelwedd 2018 cafodd ei anrhydeddu gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) am ei gyfraniad i fyd amaeth. [2]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.