From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Alex Cuthbert (ganwyd 5 Ebrill 1990, Caerloyw, Lloegr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb sy'n chwarae ar yr asgell i ranbarth Gleision Caerdydd a thîm rhyngwladol Cymru.
Dyddiad geni | 5 Ebrill 1990 | ||
---|---|---|---|
Man geni | Gloucester, England | ||
Taldra | 1.98 m (6 tr 6 mod) | ||
Pwysau | 106 kg (16 st 10 lb; 234 lb) | ||
Ysgol U. | Newent Community School Hartpury College | ||
Prifysgol | UWIC |
Yn enedigol o Gaerloyw, aeth Cuthbert i Ysgol Gymunedol Newent, ac yn ddiweddarach cafodd ddiploma yng Ngholeg Hartpury cyn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Er iddo gael ei eni yn Lloegr, mae Cuthbert yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd i'w fam gael ei geni yn Wrecsam.[1][2]
Dechreuodd Cuthbert chwarae rygbi gyntaf yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Gymundol Newent. Chwaraeodd dros glybiau Hucclecote RFC a Westbury-on-Severn RFC. Symudodd wedi hynny i Hartpury College College R.F.C., lle roedd yn cael ei hyfforddi gan Allan Lewis, gyda Jonny May ar yr asgell arall.[3] Aeth ymlaen i astudio yn UWIC, ble bu'n chwarae i'r coleg a Chlwb Rygbi Caerdydd. Dyna pryd y daeth i sylw hyfforddwr tîm saith-bob-ochr Cymru, Paul John.[4] O ganlyniad, chwaraeodd Cuthbert yng Nghyfres saith-bob-ochr IRB y byd yn 2009-2010 a 2010-2011, ac yng Ngemau'r Gymanwlad, 2010.
Daeth Cuthbert i amlygrwydd yn 2011 pan yn chwarae gyda Gleision Caerdydd. Dangosodd ei ddoniau yn ymgyrch Cwpan Heineken, gan sgorio dau gais yn erbyn Racing Metro a chyfrannu at sicrhau lle i'r rhanbarth yn yr rownd go-gyn-derfynol. Gwnaeth dibyn o argraff, a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn eu gem yn erbyn Awstralia ym mis Rhagfyr.[5] Cymerodd le George North yn ail hanner y gem honno, ond y gofod a adawyd gan Shane Williams a hawliwyd ganddo yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012. Gyda thaldra o chwe troedfedd a thair modfedd, roedd yn chwaraewr tra gwahanol i Shane Williams, ond mae'n amlwg i'w berfformiadau diweddar, ei gyflymdra a'i allu i droi cyfleon yn bwyntiau yn ddigon i argyhoeddi Warren Gatland ei fod yn haeddu ei le yng ngharfan Cymru.
Dechreuodd Cuthbert bob gêm yn ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2012. Sgoriodd y cais agoriadol pan gurodd Cymru yr Alban o 27-13, ac yna'r ail gais ym muddugoliaeth Cymru o 24-3 yn erbyn yr Eidal. Cafodd wobr Seren y Gêm am ei berfformiad. Sgoriodd Cuthbert yr unig gais yng ngêm olaf yr ymgyrch yn 2012, yn erbyn Ffrainc, gan gynorthwyo i sicrhau Camp Lawn i Gymru am y trydydd tro mewn wyth tymor.[6]
Dewiswyd Cuthbert i chwarae pob un o gemau rhyngwladol yr hydref 2012 yn erbyn yr Ariannin, Samoa, Seland Newydd ac Awstralia. Sgoriodd yr ail gais yn erbyn Seland Newydd.
Yn dilyn ei ddau gais i Gymru yn erbyn Lloegr yn y gêm i benderfynu pwy fyddai enillwyr Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2013, cafodd ei ddewis i deithio gyda'r Llewod ar eu taith i Awstralia.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.