From Wikipedia, the free encyclopedia
Amgylcheddwr, cadwraethwr, coedwigwr ac awdur o'r Unol Daleithiau oedd Rand Aldo Leopold (11 Ionawr 1887 – 21 Ebrill 1948).[1] Fe'i ystyrir yn aml yn un o dadau'r mudiad amgylchedol ac yn sefydlydd y gyfundrefn ardaloedd gwyllt yn yr Unol Daleithiau.
Aldo Leopold | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ionawr 1887 Burlington |
Bu farw | 21 Ebrill 1948 Baraboo |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ecolegydd, academydd, gwyddonydd coedwigaeth, academydd, casglwr botanegol, amgylcheddwr, athronydd, naturiaethydd, coedwigwr, llenor |
Swydd | cadeirydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | A Sand County Almanac |
Plant | Nina Leopold Bradley, Estella Leopold, Luna Leopold, A. Carl Leopold, A. Starker Leopold |
Gwobr/au | Medal John Burroughs |
Ganwyd yn Burlington, Iowa. Treuliodd ei fachgendod yn arsylwi ar fyd natur ac yn cadw dyddiadur a llyfr braslunio. Astudiodd yn yr Ysgol Goedwigaeth ym Mhrifysgol Yale. Wedi iddo ennill ei radd yn 1909, gweithiodd i Wasanaeth Coedwigoedd yr Unol Daleithiau hyd at 1928, yn bennaf yn nhaleithiau Arizona a New Mexico.
Cafodd ei benodi'n oruchwyliwr Coedwig Genedlaethol Carson yn New Mexico yn 1911. Leopold oedd un o arweinwyr y cynllun i reoli Coedwig Genedlaethol Gila, New Mexico, fel ardal naturiol, a daeth yn ardal wyllt gyntaf yr Unol Daleithiau yn 1924. Y flwyddyn honno, cafodd Leopold ei drosglwyddo i Madison, Wisconsin, i weithio yn swydd cyfarwyddwr cyswllt yn Labordy Cynnyrch Coedwig Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.[2] Yn 1933, derbyniodd swydd athro rheolaeth helfilod ym Mhrifysgol Wisconsin, y gadair gyntaf o'i fath yn yr Unol Daleithiau, a bu'n addysgu yno nes 1948. Gwasanaethodd yn gyfarwyddwr yr Audubon Society, ac yn 1935 ef oedd un o sefydlwyr y Wilderness Society.
Yn 1935, prynodd Leopold hen fferm ar lannau Afon Wisconsin, ger Baraboo yn Swydd Sauk, Wisconsin, ac enwodd yr hen gut ieir yn the Shack. Treuliodd ei deulu y penwythnos yn plannu miloedd o binwydd ac yn ceisio adfer y paith. O ganlyniad i'r arbrawf ecolegol hwn, adfywiodd y bywyd gwyllt ar y tir. Cydnabuwyd Fferm a Chaban Leopold yn Dirnod Hanesyddol Cenedlaethol gan y Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol yn 2009.[3]
Bu farw yn 61 oed o drawiad ar y galon. Mae ei ferch, Estella Leopold, yn baleobotanegydd.
Arddelai "moeseg y tir" gan Leopold: dadleuodd bod yn rhaid i bob unigolyn fod yn stiward, ac i ymddwyn yn rhan o gyfundrefn bywyd yn hytrach na rheolwr dros yr amgylchedd.
Ysgrifennod Leopold nifer fawr o erthyglau ar gyfer cyfnodolion academaidd a chylchgronau poblogaidd. Leopold oedd awdur y llyfr cyntaf ar bwnc rheolaeth bywyd gwyllt, Game Management, a gyhoeddwyd yn 1933. Ym 1949, wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd A Sand County Almanac, casgliad o'i ysgrifau sy'n galw am gadwraeth ecosystemau. Eglurodd gred Leopold y dylai dynolryw ddal mwy o barch moesol tuag at yr amgyclhedd a'i fod yn anfoesol i'w niweidio. Cyfeirir at y llyfr weithiau fel y llyfr mwyaf dylanwadol ar gadwraeth.
Cafodd ei ynydu i'r Wisconsin Conservation Hall of Fame yn 1985.[2] Ers 2015, dethlir wythnos gyntaf mis Mawrth yn Iowa er cof amdano.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.