Remove ads
talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Mecsico Newydd (Saesneg: New Mexico, Sbaeneg: Nuevo México, Nafacho: Yootó Hahoodzo) yn dalaith yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd ar y ffin â Mecsico. Ceir tair prif ardal ddaearyddol: llwyfandir gwastad yn y dwyrain, ardal fynyddig yn y canol a dorrir ar ei thraws gan Afon Grande, ac ardal gymysg o fynyddoedd a gwastadiroedd yn y gorllewin. Mae'r trefi a dinasoedd yn gymharol brin a'r boblogaeth i'w cael yn bennaf yn y dinasoedd mawr fel Albuquerque. Roedd Mecsico Newydd ym meddiant Sbaen yn yr 17g ond roedd dan reolaeth Mecsico pan gafodd ei chipio gan yr Unol Daleithiau yn 1848. Ni ddaeth yn dalaith tan 1912, a hynny ar ôl cyfres o ryfeloedd yn erbyn yr Apaches a Navajo brodorol a chyfnod o ansefydlogrwydd nodweddiadol o'r "Gorllewin Gwyllt". Bu rhaid wrth 25 mlynedd ar ôl Rhyfel Cartref America i'r llywodraeth yn Washington fedru sefydlu ei hawdurdod dros y pobloedd brodorol a'r ymsefydlwyr gwyn fel ei gilydd. Cychwynodd hyn yn 1864 pan gafodd y Navajo eu gorfodi i wneud y "Daith Hir" i wersyll Bosque Redondo. Cafodd yr Apache eu symud i amryw wersyll ac ni ddaeth ddiwedd i'r Rhyfeloedd Apache tan i'r pennaeth Geronimo a'i fand bach o ffyddloniaid ildio o'r diwedd yn 1886.
Arwyddair | Crescit eundo |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Santa Fe de Nuevo México |
Prifddinas | Santa Fe |
Poblogaeth | 2,117,522 |
Sefydlwyd | |
Anthem | O Fair New Mexico, Así Es Nuevo Méjico, Land of Enchantment, New Mexico -- Mi Lindo Nuevo México, Under New Mexico Skies |
Pennaeth llywodraeth | Michelle Lujan Grisham |
Cylchfa amser | UTC−07:00, America/Denver |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, Four Corners, Western United States, Southwestern United States, Mountain States |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 315,194 km² |
Uwch y môr | 1,735 metr |
Gerllaw | Rio Grande |
Yn ffinio gyda | Arizona, Colorado, Oklahoma, Texas, Chihuahua, Sonora, Utah |
Cyfesurynnau | 34°N 106°W |
US-NM | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Governor of New Mexico |
Corff deddfwriaethol | New Mexico Legislature |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of New Mexico |
Pennaeth y Llywodraeth | Michelle Lujan Grisham |
1 | Albuquerque | 545,852 |
2 | Las Cruces | 97,618 |
3 | Rio Rancho | 88,901 |
4 | Santa Fe | 67,947 |
5 | Roswell | 48,366 |
Maint Mecsico Newydd yw 121,412 milltir sgwâr. Mae gan y dalaith anialwch, mynyddoedd, mesáu a fforestydd. Ymysg ei hafonydd yw’r Rio Grande, Afon Pecos, Afon Canadian, Afon San Juan ac Afon Gila.
Mae 5 Fforest Genedlaethol:[1]
Fforest Genedlaethol Carson
Fforest Genedlaethol Cibola
Fforest Genedlaethol Lincoln
Fforest Genedlaethol Santa Fe
Fforest Genedlaethol Gila
Mae Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau’n rheoli’r parciau isod:- [2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.