Remove ads
afon lanw fechan ym Môn Gogledd Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o afonydd Ynys Môn yw Afon Braint. Mae'n anarferol gan fod ganddi ddwy aber.
Math | afon |
---|---|
Enwyd ar ôl | Brigantia |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.15°N 4.34°W |
Tarddiad | Pentraeth |
Aber | Afon Menai |
Mae'r afon yn tarddu o Lyn Llwydiarth, ar lethrau Mynydd Llwydiarth rhwng Pentraeth a Llanddona, ac yn llifo i'r de-orllewin. Mae'r B5420 yn croesi'r afon mewn lle o'r enw Sarn Fraint, Penmynydd.
Wrth ymyl Llanfairpwllgwyngyll, mae'r afon yn gwahanu. Mae un rhan ohoni yn llifo i'r de-ddwyrain, gan gyrraedd Afon Menai o fewn milltir ym Mhwllfanogl. Mae'r rhan arall o'r afon yn parhau i lifo i'r de-orllewin am chwe milltir, gan gyrraedd Afon Menai mewn aber arall wrth ymyl Dwyran.
Mae'n bosibl bod yr enw Braint yn tarddu o ffurf ar enw'r dduwies Geltaidd Brigantia (a goffheir hefyd yn enw'r llwyth Celtaidd y Brigantes a drigai yng ngogledd y rhan o Brydain a elwir Lloegr heddiw).
Mae'n bosib cerdded drost yr afon ar hyd y cerrig camu.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.