From Wikipedia, the free encyclopedia
Pryfyn bychan yn nheulu'r deulu'r Aeshnidae' yw gwas neidr asur (ll. gweision neidr asur; Lladin: Aeshna caerulea; Saesneg: Azure Hawker) sy'n perthyn i Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a't nod). Mae'n un o'r gweision neidr lleiaf ac yn hedfan rhwng diwedd Mai ac Awst. Mae'n 62 mm o hyd.
Gwas neidr asur Aeshna caerulea | |
---|---|
Aeshna caerulea yn Awstria | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Teulu: | Aeshnidae |
Genws: | Aeshna |
Rhywogaeth: | A. caerulea |
Enw deuenwol | |
Aeshna caerulea (Ström, 1783) | |
Mae gan y gwryw a'r fenyw sbotiau glas o liw asur (Arabeg: al lazuwar drwy'r Ffrangeg: azure) ar eu habdomen a'u thoracs. Marciau hyn yn fwy ar y gwryw na'r fenyw, sy'n fwy brown ei lliw.[2] Yn yr haul y daw allan i hedfan ac fe'i gwelir yn gorwedd yn yr haul ar risgl coeden neu graig yn aml. Mae'n cysgodi rhag y glaw a'r gwynt o dan y grug neu lwynni isel, tebyg. Yr hyn sy'n unigryw i'r gwas neidr asur yw fod y lliw asur yn fwy llachar, yn gryfach lliw pan fo'r haul yn danbaid, ond yn dylu wrth i'r tymheredd ostwng.[3]
Ewrasia a rhannau deheuol o Begwn y Gogledd yw ei diriogaeth.[1] Yng ngwledydd Prydain fe'i ceir yn yr Alban yn unig.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.