From Wikipedia, the free encyclopedia
I lawer o eglwysi Cristnogol, tymor o ddisgwyl a pharatoi ar gyfer dathlu geni'r Iesu ar adeg y Nadolig ac ail-ddyfodiad Iesu yw'r Adfent. Mae'r term yn fersiwn o'r gair Lladin sy'n golygu "dyfodiad". Mae'r term "adfent" hefyd yn cael ei ddefnyddio gan yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ar gyfer ympryd 40 diwrnod i nodi'r geni.[1]
Y gair Lladin adventus yw'r cyfieithiad o'r gair Groeg parousia, sy'n aml yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at Ail-ddyfodiad Crist. I Gristnogion, mae tymor yr Adfent yn cyfeirio at ddyfodiad Crist o dri gwahanol safbwynt: yn y cnawd ym Methlehem, yn eu calonnau yn feunyddiol, ac yn ei ogoniant ar ddiwedd amser.[2] Mae'r tymor yn gyfle i ymdeimlo'r hen ddyhead am ddyfodiad y Meseia, a bod yn barod ar gyfer yr Ail-ddyfodiad.
Yr Adfent yw dechrau'r flwyddyn litwrgaidd yn y Gorllewin, sy'n dechrau ar y pedwerydd Sul cyn y Nadolig (weithiau yn cael ei adnabod fel Sul yr Adfent), y Sul agosaf i Ddydd Gwyl Sant Andreas (30 November), yn Nefod Rhufeinig yr Eglwys Gatholig, Defod Orllewinol yr Eglwys Uniongred, ac yng nghalendrau'r Eglwysi Anglicanaidd, Lutheraidd, Morafaidd, Presbyteraidd, a Methodistaidd.[3] Yn Nefodau Ambrosaidd a Mosarabig yr Eglwys Gatholig, mae'r Adfent yn dechrau ar y chweched Sul cyn y Nadolig, y Sul sy'n dilyn Dydd Gwyl Sant Martin (11 Tachwedd).
Mae'r arferion sy'n gysylltiedig a'r Adfent yn cynnwys cadw calendr Adfent, goleuo rhith Adfent, offrymu gweddi o ddefosiwn dyddiol, gosod coeden Nadolig neu goeden Crismon, goleuo Cristingl,[4] yngyd a dulliau eraill o baratoi ar gyfer y Nadolig, fel gosod addurniadau Nadolig,[5][6][7] arferiad sydd weithiau yn cael eu gyflawni yn litwrgaidd trwy seremoni gosod y gwyrddion.[8][9] Ympryd y Geni yw'r enw sy'n cael ei roi i'r wyl gyfatebol i'r Adfent mewn Cristnogaeth Ddwyreiniol, ond mae'n wahanol o ran ei hyd ac arferion, ac nid yw'n dechrau'r flwyddyn litwrgaidd fel y gwna yn y Gorllewin. Nid yw Ympryd y Geni yn y Dwyrain yn defnyddio'r parousia cyfatebol yn ei wasanaethau paratoawl.[10]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.