Aaron Swartz

From Wikipedia, the free encyclopedia

Aaron Swartz

Rhaglennydd cyfrifiadurol, awdur, archifydd, trefnydd gwleidyddol, ac ymgyrchydd rhyngrwyd o'r Unol Daleithiau oedd Aaron H. Swartz (8 Tachwedd 198611 Ionawr 2013).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Aaron Swartz
Thumb
GanwydAaron Hillel George Swartz 
8 Tachwedd 1986 
Highland Park 
Bu farw11 Ionawr 2013 
Brooklyn 
DinasyddiaethUnol Daleithiau America 
Alma mater
Galwedigaethrhaglennwr, llenor, Internet activist, wicimediwr, gweithredydd gwleidyddol, person busnes, hacktivist 
Adnabyddus amReddit, Open Library, RSS 
TadRobert Swartz 
MamSusan Swartz 
PartnerQuinn Norton, Taren Stinebrickner-Kauffman 
Gwobr/auGwobr EFF, Gwobr James Madison, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd 
Gwefanhttp://www.aaronsw.com 
Cau

Roedd Swartz yn aelod o'r RSS-DEV Working Group a gyd-ysgrifennodd y fanyleb "RSS 1.0"[1] ac adeiladodd y fframwaith gwefan web.py a phensaernïaeth yr Open Library. Adeiladodd Swartz Infogami, cwmni a gyfunodd â Reddit. Canolbwyntiodd Swartz hefyd ar gymdeithaseg, ymwybyddiaeth ddinesig, a gweithredaeth wleidyddol. Yn 2010 roedd yn aelod o Ganolfan Moeseg Prifysgol Harvard. Cyd-sefydlodd y grŵp ar-lein Demand Progress (a adnabyddir am ei ymgyrch yn erbyn SOPA) ac yn ddiweddarach gweithiodd gyda'r grwpiau gweithredol Rootstrikers ac Avaaz.

Ar 6 Ionawr 2011, cafodd Swartz ei arestio mewn cysylltiad â llwytho i lawr erthyglau academaidd o JSTOR yn systematig, a ddaeth yn destun ymchwiliad ffederal.[2][3] Roedd Swartz yn feirniadol o bolisi JSTOR o godi pris am gael mynediad i erthyglau ac yn talu'r cyhoeddwyr yn lle'r awduron. Roedd ffïoedd JSTOR yn cyfyngu ar fynediad i waith a gyhoeddwyd gan golegau a phrifysgolion yr Unol Daleithiau.[4][5]

Ar 11 Ionawr 2013 cymerodd Swartz fywyd ei hunan yn ei randy yn Crown Heights, Brooklyn, trwy grogi.[6][7][8][9]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.