From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Pawb Dan Un Faner Cymru, neu, gan amlaf dan ei thalfyriad Saesneg, AUOB Cymru (sef All Under One Banner Cymru), yn fudiad sy’n hybu annibyniaeth i Gymru. Cafodd y mudiad ei hysbrydoli gan All Under One Banner yn yr Alban gan gadw'r un enw er mwyn magu perthynas a chydweithio rhwng y gwledydd. Cynhaliwyd eu gorymdaith gyntaf ar y cyd gydag YesCymru yng Nghaerdydd ar 11 Mai 2019, gan ddenu miloedd o gyfranogwyr.[1][2][3]
Math | sefydliad gwleidyddol |
---|---|
Sefydlwyd | 2019 |
Gwefan | https://www.auob.cymru/ |
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad gwleidyddol |
---|---|
Idioleg | Annibyniaeth i Gymru |
Dechrau/Sefydlu | 2019 |
Rhanbarth | Cymru |
Gwefan | https://www.auob.cymru/ |
Sefydlydd a phrif lefarydd y mudiad yw Llywelyn ap Gwilym.
Mae'r mudiad yn un amhleidiol a thrawsbleidiol. Nid yw'n sefyll mewn etholiadau. Yn ôl gwefan y mudiad, dywed AUOB Cymru: "Rydyn ni eisiau gweld Cymru well, dyna pam rydyn ni'n ymladd dros annibyniaeth. I bawb. Os ydych chi'n credu yn yr un pethau, ymunwch â ni yn ein gorymdeithiau pawb dan un faner. Mae dewis arall. Rydyn ni'n grŵp annibyniaeth DIY. Credwn fod gennych y pŵer i wneud gwahaniaeth. Credwn fod gan bawb ran i’w chwarae."[4] Mae'r wefan yn cynnig ffyrdd 'DIY' o drefnu dros annibyniaeth gan gynnwys: gwneud baner, trefnu gorymdaith, gwneud taflen.[5]
Cynhaliwyd gorymdeithiau a gorymdeithiau cychwynnol gyda chefnogaeth ac yn aml dan faner, YesCymru yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr Tudful ym mis Mai 2019. [6] Wedi hoe oherwydd Covid-19 cynhaliwyd gorymdaith yn Wrecsam yn 2022.[7]
Bu'n rhaid canslo gorymdeithiau dilynol a drefnwyd ar gyfer 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.[8][9]
Cynhaliwyd gorymdaith gyntaf 2022 yn Wrecsam ar 2 Gorffennaf gyda gorymdaith Caerdydd yn cael ei chynnal ar 1 Hydref.[10]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.