Yr Undeb Rhyngwladol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr Undeb Rhyngwladol neu Yr Internationale (L'Internationale yn Ffrangeg) yw'r gân sosialaidd enwocaf, ac un o ganeuon enwocaf y byd. Ysgrifennodd Eugène Pottier (1816–1887) eiriau'r anthem ym 1871, ac ym 1888 cyfansoddodd Pierre Degeyter (1848–1932) y dôn.[1] (Y dôn wreiddiol oedd La Marseillaise.) Daw'r enw o'r Undeb Rhyngwladol Cyntaf, cyfundrefn sosialaidd rhyngwladol. Mae hi'n cael ei chanu'n draddodiadol gyda'r llaw dde yn ddwrn caeedig.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Awdur ...
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Awdur | Eugène Pottier |
Gwlad | Ffrainc |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 23 Ionawr 1918 |
Dechrau/Sefydlu | 1871 |
Genre | revolutionary song |
Lleoliad cyhoeddi | Berlin |
Prif bwnc | Comiwn Paris |
Rhagflaenydd | Worker's Marseillaise |
Olynydd | Emyn yr Undeb Sofietaidd |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, Yr Undeb Sofietaidd, Comiwn Paris, Chinese Soviet Republic |
Cyfansoddwr | Pierre De Geyter |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Gan fod y gân yn deillio o gyfnod cyn rhaniad ffurfiol sosialaeth i'w aml-dueddiadau, caiff ei ganu gan bleidiau cymdeithasol democrataidd (serch ei eiriau chwyldroadol), gomiwnyddion ac anarchwyr 'oll.