![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fc/Karl_Marx.jpg/640px-Karl_Marx.jpg&w=640&q=50)
Sosialaeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sosialaeth yw'r enw a roddir i gasgliad o ideolegau sy'n ffafrio cyfundrefn sosio-economaidd lle mae eiddo a dosbarthiad cyfoeth yn cael eu rheoli gan gymdeithas.[1]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fc/Karl_Marx.jpg/640px-Karl_Marx.jpg)
Gellir olrhain gwreiddyn y mudiad sosialaeth modern yn bennaf at fudiad dosbarth gweithiol y 19g. Yn y cyfnod hwn, defnyddiwyd y term "sosialaeth" yn gyntaf pan yn cyfeirio at feirniaid cymdeithasol Ewropeaidd oedd yn collfarnu cyfalafiaeth ac eiddo preifat. Un fu'n rhannol gyfrifol am sefydlu a diffinio'r mudiad sosialaeth modern oedd Karl Marx. Credai ef y dylid diddymu arian, marchnadoedd, cyfalaf, a llafur fel cynwydd.
Yn nhreigl amser, rhannodd y mudiad yn garfannau gwahanol. Erbyn heddiw ceir pleidiau sosialaidd cymdeithasol - diwygwyr megis y Blaid Lafur sydd yn cefnogi gwladwriaethau les a rheoli cyfalafiaeth; comiwnyddion chwyldroadol megis y Bolsiefigiaid sydd yn cefnogi "Unbennaeth y Proletariat"; ac anarchwyr gwrth-wladwriaethol. Yn aml cymysgir egwyddorion sosialaidd â syniadau gwleidyddol gwahanol, megis cenedlaetholdeb fel wna Plaid Cymru.