From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfarwyddwr Adran Tir a Choedwigo'r Gronfa Genedlaethol Iddewig (JNF) oedd Yosef Weitz (1890 – 22 Medi 1972).[1] O'r 1930au ymlaen, chwaraeodd Weitz ran fawr wrth gaffael tir i'r Yishuv, sef y gymuned Iddewig cyn sefydlu'r wladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina . Daeth yn adnabyddus fel "Tad y Coedwigoedd" [2] am ei waith ym maes coedwigo, ac fel “Pensaer y Trosglwyddo” am ei ran mewn gyrru'r boblogaeth Balesteinaidd ar ffo o'u gwlad.[3]
Ganed Yosef Weitz yn Boremel, Volhynia yn yr Ymerodraeth Rwsiaidd yn 1890. Yn 1908, ymfudodd i Balesteina gyda'i chwaer, Miriam, a chafodd waith fel gwyliedydd a gweithiwr amaethyddol yn Rehovot. Yn 1911, yr oedd yn un o drefnwyr Undeb y Gweithwyr Amaethyddol yn Eretz Yisrael. Priododd Weitz â Ruhama a ganed eu mab hynaf, Ra'anan, ym 1913. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1915, penodwyd Yosef Weitz yn oruchwyliwr fferm hyfforddi Sejera (Ilaniya bellach) yng Ngalilea Isaf. Helpodd Weitz i sefydlu Yavniel, un o drefedigaethau cyntaf yr arloeswyr yng Ngalilea, ac yn ddiweddarach, cymdogaeth Beit Hakerem yn Jerwsalem. Lladdwyd ei fab Yehiam (Hebraeg am "hiroes i'r genedl"), a anwyd yn Yavne'el ym mis Hydref 1918, mewn gweithred gan y Palmach o'r enw Noson y Pontydd ar Fehefin 16, 1946. Sefydlwyd Kibbutz Yehi'am er cof amdano.[4] Dilynodd Sharon Weitz, mab arall, yn ôl troed ei dad ac yn ddiweddarach cymerodd yr awenau fel cyfarwyddwr yr Adran Goedwigo.
Ym 1940, ysgrifennodd Weitz yn ei ddyddiadur:
Yn ystod rhyfel Palesteina 1948, gyrrwyd ~750,000 o Balesteiniaid ar ffo o'r wladwriaeth Iddewig a oedd newydd ei chreu. Credai Weitz yn gryf na ddylai Israel ganiatáu iddynt ddychwelyd, ac fe argyhoeddodd arweinwyr Israel i ddinistrio cartrefi a phentrefi gwag y Palesteiniaid er mwyn atal y ffoaduriaid rhag dychwelyd.[3]
Fel pennaeth Adran Goedwigo'r Gronfa Genedlaethol Iddewig, rhoddodd Weitz ei weledigaeth o Israel fel gwlad goediog ar waith.
Roedd Weitz eisiau plannu miliynau o goed nid yn unig i addurno tirwedd Israel, ond hefyd i guddio'r pentrefi gwag ym Mhalesteina a oedd wedi'u dinistrio fel na ellid byth eu hailadeiladu. [3]
Cafodd ei annog gan David Ben-Gurion, a ddywedodd wrth Weitz ei fod am i biliwn o goed gael eu plannu o fewn degawd. Ym 1949, cynigiodd raniad llafur rhwng llywodraeth Israel a'r Gronfa Genedlaethol Iddewig. Byddai'r llywodraeth yn ymgymryd ag ymchwil gymhwysol i dechnegau plannu, yn enwedig mewn crastiroedd, a datblygu'r diwydiant coed. Byddai hefyd yn sefydlu meithrinfeydd. Byddai'r Gronfa Genedlaethol Iddewig yn gwella coedwigoedd brodorol, gweithio mewn coedwigo ardaloedd bryniog, atal twyni tywod rhag lledu a phlannu atalfeydd gwynt. Gwelodd Weitz feithrinfeydd planhigion a choedwigo fel ffynhonnell hanfodol o gyflogaeth ar gyfer y llu o fewnfudwyr newydd a oedd yn cyrraedd yn nyddiau cynnar y wladwriaeth Iddewig. Cafodd ei arwain gan y gred bod datblygu moeseg gwaith yn hanfodol ar gyfer meithrin diwylliant y wlad yn y newydd-ddyfodiaid.
Ym 1966, plannwyd Coedwig Yatir yn y Negev ar anogaeth Weitz. Disgrifiodd y prosiect fel "dileu'r anialwch gyda choed, gan greu parth diogelwch i bobl Israel." [5] Fe'i henwyd ar ôl tref Feiblaidd Yatir, a hi bellach yw coedwig blanedig fwyaf Israel. [6]
Pwysleisiodd strategaeth goedwigo Weitz ddefnyddioldeb economaidd coedwigoedd a phwysigrwydd pinwydd Aleppo fel y mwyaf gwydn o'r rhywogaethau lleol. O ganlyniad, roedd coedwigoedd Israel am ei hugain mlynedd cyntaf yn ungnwd i raddau helaeth ac yn ddiweddarach effeithiwyd arnynt gan blâu naturiol. Roedd Weitz yn gwrthdaro'n aml â'r egin fudiad cadwraeth a oedd yn gwrthwynebu dull y Gronfa Genedlaethol Iddewig o blannu coed, megis planhigfeydd coed pinwydd ar Fynydd Gilboa a oedd yn bygwth y planhigyn endemig, Iris haynei (a elwir hefyd yn Iris Gilboa).
Roedd Weitz o blaid trosglwyddo poblogaeth. Wrth i ryfel Palesteina ym 1948 fynd rhagddo, cyfaddefodd i'w ddyddiadur ym mis Ebrill ei fod wedi llunio rhestr o bentrefi Arabaidd Palesteina i'w "carthu" er mwyn galluogi'r Iddewon i'w meddiannu, a'i fod hefyd wedi llunio rhestr o anghydfodau tir â Phalesteiniaid y credai y dylid eu datrys trwy ddulliau milwrol. [7] Yn ôl Nur Masalha [8] a Benny Morris [9] sefydlwyd Pwyllgor Trosglwyddo answyddogol ym mis Mai 1948 yn cynnwys Weitz, Danin a Sasson. Fodd bynnag, ysgrifennodd yr hanesydd Efraim Karsh, er bod Weitz wedi sôn am sefydlu pwyllgor trosglwyddo, fod Ben-Gurion wedi gwrthod y syniad, ac na sefydlwyd pwyllgor o'r fath erioed.[10]
Yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr yr Adran Goedwigo, cychwynnodd brosiectau i ddinistrio eiddo'r Palesteiniaid, gan orchymyn personél i greu rhwystrau i Balesteiniaid a oedd yn ceisio dychwelyd i drin eu caeau, dinistrio pentrefi, a gwneud pentrefi eraill yn addas i fyw ynddynt er mwyn galluogi gwladychiad Iddewig. Roedd wedi trafod y gweithgareddau hyn gyda Ben-Gurion ar Fehefin 8, ac yn ôl ei ddyddiadur, cafodd ei gymeradwyaeth.[11] Ar Fehefin 22, 1941 ysgrifennodd yn ei ddyddiadur: "Nid gwlad fach yw Israel o gwbl, dim ond i'r Arabiaid gael eu symud, a'i ffiniau gael eu hehangu ychydig, i'r gogledd hyd at afon Litani, ac i'r dwyrain gan gynnwys Uchelderau Golan ... ac i'r Arabiaid gael eu trosglwyddo i ogledd Syria ac Irac...Heddiw does gennym ni ddim dewis arall...Ni fyddwn ni'n byw yma ar y cyd â'r Arabiaid." [12]
O ran problem y Palesteiniaid a yrrwyd ar ffo o'u gwlad yn ceisio dychwelyd yn ddiweddarach yn 1948, awgrymodd Weitz i Ben-Gurion ar Fedi 26 fod angen polisi o aflonyddu di-baid (hatrada) trwy bob dull a modd a oedd ar gael er mwyn atal unrhyw ddychweliad o'r fath. [13]
Mae Cyngor Rhanbarthol Ma'ale Yosef a Moshav Talmei Yosef wedi'u henwi ar ôl Yosef Weitz.
Gwnaeth gorwyres Weitz, Michal Weits, ffilm ddogfen am Yosef Weitz, Blue Box (Israel/Canada/Gwlad Belg 2021, 82 munud). [14]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.