From Wikipedia, the free encyclopedia
Ar 19 Mawrth 2011 dechreuodd ymyrraeth filwrol yn Libia gan gynghrair o wledydd i weithredu Penderfyniad 1973 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, fel ymateb i'r gwrthryfel yn Libia.[1] O fewn ychydig ddyddiau roedd Unol Daleithiau America (UDA) a'r Deyrnas Gyfunol (DG) wedi tanio dros 110 taflegryn Tomahawk,[2] a chefnogaeth milwrol gan Canada a Ffrainc. Roedd yr ymyrraeth gan y gynghrair yn cynnwys gwaharddiad hedfan, môr-warchae, a chyrchoedd awyr: cadarnhawyd fod Ffrainc wedi taro nifer o danciau byddin y wlad.[3]
Enghraifft o'r canlynol | ymyrraeth filwrol |
---|---|
Dyddiad | 31 Hydref 2011 |
Rhan o | Chwyldro Libia |
Dechreuwyd | 19 Mawrth 2011 |
Daeth i ben | 31 Hydref 2011 |
Lleoliad | Libia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr enwau swyddogol ar yr ymgyrchoedd arfog hyn oedd: Opération Harmattan gan Ffrainc, Operation Ellamy gan y DG, Operation Mobile gan Canada ac Operation Odyssey Dawn gan UDA.[4] Roedd 19 gwlad yn aelodau o'r gynghrair, gyda'r DG a Ffrainc yn arwain. Roedd y gynghrair yn cynnwys aelod-wladwriaethau NATO, Sweden, Qatar, a'r Emiradau Arabaidd Unedig.
Ar 24 Mawrth daeth y gwaharddiad hedfan dan reolaeth NATO, a alwyd yr ymyrraeth yn Operation Unified Protector, gyda'r ymosodiadau ar fyddin Libia yn nwylo'r gynghrair.
Daeth yr ymyrraedd filwrol i ben fwy neu lai pan laddwyd yr Arlywydd Gaddafi a daeth ymgyrch NATO i ben yn swyddogol ar 31 Hydref 2011.[5]
O aelod-wladwriaethau NATO: Ffrainc, y Deyrnas Gyfunol, yr Unol Daleithiau, Canada, Gwlad Belg, Norwy, a Denmarc gynhaliodd y cyrchoedd awyr. Roedd Sbaen, yr Eidal, a'r Iseldiroedd yn cynnal ymgyrchoedd rhagchwilio yn unig ac roedd Albania yn darparu ei phorthladdoedd a'i meysydd awyr ar gyfer NATO. Darparodd Bwlgaria ffrigad, Gwlad Groeg awyrennau, llong, a chanolfannau milwrol, a darparodd Rwmania un llong, a darparodd llynges Twrci longau ac un llong danfor. Roedd gweddill aelodau NATO'n cefnogi'r ymgyrch i amddiffyn sifiliaid fel yr awdurdodwyd gan Benderfyniad 1973. Er hyn, gwrthododd llywodraeth yr Almaen weithredu'n filwrol.[6]
Yn y Dwyrain Canol dim ond Syria a wrthwynebodd yr ymyrraeth yn gyfangwbl.[angen ffynhonnell] Mae dwy o wladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia, Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig, wedi cyfrannu at yr ymyrraeth filwrol. Arhosodd lluoedd milwrol yr Aifft, cymydog dwyreiniol Libia a welodd chwyldro yn Ionawr a Chwefror 2011, yn swyddogol niwtral ar y gwrthryfel cyn i Benderfyniad 1973 gael ei basio, ond roedd barn gyhoeddus o fewn y wlad yn gefnogol iawn dros ymyrraeth gan wledydd y Gorllewin. Er bod llywodraeth Iran yn cefnogi'r gwrthryfelwyr yn erbyn Muammar al-Gaddafi, disgrifiodd Ramin Mehmanparast, llefarydd dros adran dramor Iran, y cyrchoedd awyr fel "gwladychiaeth mewn ffurf newydd".[7]
Cafwyd protestiadau ledled y byd yn erbyn ymosodiadau milwrol y gynghrair gan gynnwys ym Mawrth 2011 yn Llundain. Ar yr 20fed cafwyd protest y tu allan i 10 Stryd Downing gyda baneri'n mynegi, "The lessons of Iraq and Afghanistan]] have not been learnt". Roedd y mudiad CND yn bresennol yn ogystal â Stop the War Coalition. Anerchwyd y dorf gan George Gallaway a dywedodd: "Mae'r rhyfel hwn wedi'i seilio ar reoli olew, a'r neges i holl wledydd y byd gan y gynghrair ydy 'Gallwn wneud fel y mynnom!'" a "rhyfel Imperialaidd".[8]
Yn Libia ei hun, cyn 18 Gorffennaf, cynhaliwyd nifer o brotestiaidau gan bobl y wlad - fel arfer gyda thorf o tua 10,000 yr un - o blaid Gaddafi.[9]
Yr arian a wariwyd ar y rhyfel yn Libia gan wledydd estron | |||||||||||||||||||
Gwlad | Arian a wariwyd | Erbyn | |||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Y Deyrnas Unedig | $336–$1,500 miliwn USD | Medi 2011 (estimate)[10][11] | |||||||||||||||||
Unol Daleithiau America | 896 – 1,100 miliwn USD | Hydref 2011[12][13][14][15][16] | |||||||||||||||||
Yr Eidal | $700 miliwn EUR | Hydref 2011[17] | |||||||||||||||||
Ffrainc | $450 miliwn EUR | Medi 2011[18][19] | |||||||||||||||||
Twrci | 300 miliwn USD | Gorffennaf 2011[20] | |||||||||||||||||
Denmarc | $120 miliwn EUR | Tachwedd 2011[21] | |||||||||||||||||
Gwlad Belg | $58 miliwn EUR | Hydref 2011[22] | |||||||||||||||||
Sbaen | $50 miliwn EUR | Medi 2011[23] | |||||||||||||||||
Sweden | 50 miliwn USD | Hydref 2011[24] | |||||||||||||||||
Canada | 26 miliwn USD | Mehefin 2011[25] |
Ar 22 Mawrth 2011 amcangyfrifodd y BBC beth fyddai'r gost ariannol i'r Deyrnas Gyfunol.[26] Dywedodd Francis Tusa,golygydd y rhaglen Defence Analysis, y dylid amcangyfrif y gall y gost o hedfan Tornado GR4 fod oddeutu £35,000 yr awr ac felly fod cylch-wylio (neu 'batrolio') un sector felly'n costio £2M –£3M ($2.75M -$4.13M USD) y dydd. Dywedwyd hefyd fod taflegrau'n costio £700,000-800,000 yr un.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.