![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e5/Rhug_02272.jpg/640px-Rhug_02272.jpg&w=640&q=50)
Y Rug
From Wikipedia, the free encyclopedia
Plasdy Cymreig ger Corwen, Sir Ddinbych yw'r Rug (ceir y ffurfiau Rhug a Rûg weithiau hefyd, yn enwedig mewn ffynonellau Saesneg). Roedd yn ganolfan diwylliant Cymraeg yn yr ardal am ganrifoedd. Mae'n adnabyddus heddiw oherwydd Capel y Rug gyda'i murlun trawiadol a'r gerddi hardd o'i gwmpas.
![]() Plasty Rug c.1778; allan o'r gyfrol A Tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798). | |
Math | plasty, plasty gwledig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystâd Rhug ![]() |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9807°N 3.3941°W ![]() |
![]() | |
Gorwedda'r Rug tua milltir i'r gogledd-orllewin o Gorwen. Ceir plasdy - mwy diweddar na'r un gwreiddiol - a pharcdir helaeth sy'n cynnwys mwnt hynafol ar lan llyn bychan. Mae'r capel preifat enwog yn sefyll ar bwys yr A494 wedi ei amgylchynnu gan lwyni rhododendron.
Roedd perchnogion gwreiddiol y Rug yn ddisgynyddion i Tudur ap Gruffudd Fychan, Arglwydd Gwyddelwern ac un o frodyr y Tywysog Owain Glyndŵr. Priododd Ieuan ap Hywel ap Rhys o'r Rug Wenhwyfar, gor-wyres Tudur ap Gruffudd. Trwy briodas Marged Wen, aeres Ieuan, a Pyrs Salsbri roedd perthynas agos â Salbriaid Bachymbyd a Lleweni hefyd. Daeth y Rug i feddiant Wynniaid Wynnstay yn nes ymlaen.[1]
Roedd teulu'r Rug yn noddi'r beirdd Cymraeg o'r 15g hyd ganol yr 17g pan basiodd y Rug o'i ddwylo. Un o'r beirdd a gai nawdd yn y Rug yn ail hanner yr 16g oedd y clerwr Robin Clidro, o Ddyffryn Clwyd. Canai i Salbriaid Bachymbyd hefyd.[2] Canai rai o feirdd mawr eraill y cyfnod yno hefyd, fel Tudur Aled a Siôn Tudur. Canodd Tudur Aled gywydd marwnad i Hywel ap Rhys ap Dafydd ap Hywel o'r Rug sy'n agor gyda phennill sy'n cynnwys y llinell adnabyddus "Hoedl a thir, hudoliaeth yw":
- Duw gwyn! er digio ennyd,
- Ai difa'r iaith yw dy fryd?
- Hynt oedd oer, hwnt, a dderyw,—
- Hoedl a thir, hudoliaeth yw![3]