![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/%25D0%259F%25D0%25BE%25D0%25BB%25D0%25B8%25D1%2582%25D0%25B8%25D1%2587%25D0%25B5%25D1%2581%25D0%25BA%25D0%25B0%25D1%258F_%25D0%25BA%25D0%25B0%25D1%2580%25D1%2582%25D0%25B0_%25D0%2590%25D0%25B7%25D0%25B8%25D0%25B8_%25D0%25BD%25D0%25B0%25D1%2587%25D0%25B0%25D0%25BB%25D0%25BE_XX_%25D0%25B2%25D0%25B5%25D0%25BA%25D0%25B0.jpg/640px-%25D0%259F%25D0%25BE%25D0%25BB%25D0%25B8%25D1%2582%25D0%25B8%25D1%2587%25D0%25B5%25D1%2581%25D0%25BA%25D0%25B0%25D1%258F_%25D0%25BA%25D0%25B0%25D1%2580%25D1%2582%25D0%25B0_%25D0%2590%25D0%25B7%25D0%25B8%25D0%25B8_%25D0%25BD%25D0%25B0%25D1%2587%25D0%25B0%25D0%25BB%25D0%25BE_XX_%25D0%25B2%25D0%25B5%25D0%25BA%25D0%25B0.jpg&w=640&q=50)
Y Gêm Fawr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Term a fathwyd i ddisgrifio'r ymgiprys am rym strategol a gwrthdaro rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig ac Ymerodraeth Rwsia am oruchafiaeth yng Nghanolbarth Asia yn y 19g yw Y Gêm Fawr (o'r ymadrodd Saesneg, The Great Game). Mae cyfnod y Gêm Fawr yn ymestyn o tua'r 1810au ac arwyddo Cytundeb Persia a Rwsia 1813 hyd y Gynhadledd Eingl-Rwsiaidd yn 1907. Gellid ystyried yr anghydfod yn y rhanbarth a ddilynodd Chwyldro'r Bolsheficiaid yn Rwsia yn 1917 yn barhad o'r Gêm ar raddfa llai.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/66/Persia_afghanistan_1848.jpg/320px-Persia_afghanistan_1848.jpg)
Bathwyd y term "The Great Game" gan Arthur Conolly, swyddog gwybodaeth yn Chweched Farchoglu Ysgafn Bengal (Bengal Light Cavalry) Cwmni Prydeinig Dwyrain India. Daeth yn enw cyfarwydd ym Mhrydain a llefydd eraill ar ôl iddo gael ei ddefnyddio gan y nofelydd Seisnig Rudyard Kipling yn ei nofel Kim (1901).
Yn ogystal â Phrydain a Rwsia, roedd y Gêm Fawr yn effeithio ar wleidyddiaeth a chymdeithas gwledydd fel Persia, Tibet a Tsieina, ynghyd â'r India Brydeinig (India a Pacistan), ond ei chanolbwynt oedd Affganistan a gorllewin a gogledd Pacistan (nad oedd yn bod y pryd hynny).[1] Gellid dadlau fod rhai o ganlyniadau'r Gêm yn effeithio ar y rhanbarth hyd heddiw, e.e. y sefyllfa yn Affganistan a meddiannu Tibet gan Weriniaeth Pobl Tsieina.