Y Gwanwyn Arabaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres o brotestiadau a gwrthryfeloedd mewn llawer o wledydd y Byd Arabaidd a thu hwnt yw Y Gwanwyn Arabaidd (neu Protestiadau'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, 2010–2011). Taniwyd y wreichionen gyntaf yn Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun i farwolaeth ar 17 Rhagfyr 2010 yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia. Dilynwyd hyn gan gyfres o brotestiadau gan y werin a alwyd yn Chwyldro Jasmin neu Intifada Tiwnisia.
Enghraifft o'r canlynol | protest, gwrthryfel, rhyfel cartref, chwyldro |
---|---|
Dyddiad | 17 Rhagfyr 2010 |
Dechreuwyd | 18 Rhagfyr 2010 |
Daeth i ben | Rhagfyr 2012 |
Lleoliad | Y Byd Arabaidd |
Yn cynnwys | civil uprising phase of the Syrian Civil War, Chwyldro'r Aifft, Chwyldro Libia, Chwyldro Iemen, 2013 Libyan coup d'état attempt, Chwyldro Tiwnisia, 2010–2012 Algerian protests, 2011–2012 Jordanian protests, Gdeim Izik protest camp, 2011 Omani protests |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymledodd y protestiadau hyn ar hyd a lled y gwledydd Arabaidd: yr Aifft, Algeria, Bahrein, Jibwti, Gorllewin Sahara, Gwlad Iorddonen, Iran, Ciwait, Libia, Moroco, Tiwnisia a Iemen gyda phrotestiadau llai yn Irac, Mawritania, Oman, Sawdi Arabia, Senegal, Somalia, Swdan a Syria. Mae'r protestiadau wedi cynnwys gorymdeithiau, ralïau a streiciau ac mae'r protestwyr wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn aml.