![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/ca/Si%25C3%25A8ge_d%2527Acre_par_Philippe_Auguste.jpg/640px-Si%25C3%25A8ge_d%2527Acre_par_Philippe_Auguste.jpg&w=640&q=50)
Y Drydedd Groesgad
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y drydedd yn y gyfres o gyrchoedd yn erbyn y Saraseniaid ym Mhalesteina a'r Lefant i ennill meddiant ar y Tir Sanctaidd oedd Y Drydedd Groesgad. Parahodd o'r flwyddyn 1189 hyd 1192.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | religious war ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2 Medi 1192 ![]() |
Rhan o | Y Croesgadau ![]() |
Dechreuwyd | 1189 ![]() |
Daeth i ben | 1192 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Yr ail Croesgad ![]() |
Olynwyd gan | Y Bedwaredd Groesgad ![]() |
Lleoliad | Y Dwyrain Agos ![]() |
Yn cynnwys | Battle of Iconium, Siege of Acre, Battle of Arsuf, Battle of Jaffa ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e3/Ayyubid.png/640px-Ayyubid.png)
Cwymp dinas Caersalem i Saladin yn 1187 oedd yr ysbardun a arweiniodd at gyhoeddi'r Drydedd Groesgad yn 1189. Yr arweinwyr oedd Phylip II Awgwstws o Ffrainc, yr Ymerodr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa a Rhisiart Coeur de Lion o Loegr.
Un o'r rhai aeth allan i'r Tir Sanctaidd oedd y prelad Eingl-Normanaidd Baldwin, Archesgob Caergaint. Cyn hynny bu'n teithio o amgylch Cymru yng nghwmni Gerallt Gymro i geisio cael pobl i ymuno yn y groesgad newydd, taith a ddisgrifir yn y llyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Bu farw Baldwin ym Mhalesteina yn 1190, ddwy flynedd ar ôl ei ymweliad â Chymru.