![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f5/Combat_deuxi%25C3%25A8me_croisade.jpg/640px-Combat_deuxi%25C3%25A8me_croisade.jpg&w=640&q=50)
Y Croesgadau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y Croesgadau yn gyfres o ymgyrchoedd milwrol a ymladdwyd gan Gristnogion o orllewin Ewrop draw yn y Dwyrain Canol yn yr Oesoedd Canol, sef rhwng diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a diwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Eu pwrpas oedd adfeddiannu'r Tiroedd Sanctaidd, gan gynnwys lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslimiaid. Roedd y tiroedd hyn yn bwysig i Gristnogion oherwydd dyma lle'r oedd Cristnogaeth wedi cychwyn, ac ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg cyhoeddodd y Pab bod angen achub y Tir Sanctaidd rhag rheolaeth gan Fwslemiaid. At ei gilydd dyma gychwyn cyfnod pan ymladdwyd wyth croesgad bwysig. Bu sawl ymgyrch gan Gristnogion i recriwtio pobl i ymladd yn y Croesgadau a dyma oedd pwrpas taith Gerallt Gymro drwy Gymru yn 1188. Roedd Jeriwsalem yn fan ymladd allweddol rhwng Cristnogion a Mwslimiaid ac yn bwysig i’r ddwy grefydd. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth Jeriwsalem, a mannau cysegredig eraill ym Mhalesteina, yn gyrchfannau pwysig i bererinion Cristnogol gan mai'r rhain oedd y tiroedd lle'r oedd Iesu Grist wedi byw. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith bod hon yn broses barhaol, gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel, gwrthdaro ![]() |
---|---|
Math | ymgyrch filwrol ![]() |
Dechreuwyd | 1095 ![]() |
Daeth i ben | 1291 ![]() |
Yn cynnwys | Y Groesgad Gyntaf, Brwydrau'r croesgadwir rhwng 1101 a 1145, Yr ail Croesgad, Brwydrau'r croesgadwir rhwng 1149 a 1189, Y Drydedd Groesgad, Y Bedwaredd Groesgad, Y Pumed Groesgad, Y Chweched Groesgad, Croesgad y Barwniaid, Rhyfel y Lombardiaid, Crwysgad 1101, Siege of Gaza ![]() |
![]() |
- Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Chroesgadau'r Oesoedd Canol. Am enghreifftiau eraill o'r gair Croesgad (neu Crŵsad), gweler Croesgad (gwahaniaethu) a Croesgadwr.