Y Dwyrain Agos
From Wikipedia, the free encyclopedia
Term daearyddol yw'r Dwyrain Agos sy'n cyfeirio at ardal yn y Dwyrain Canol. Mae ei union ddiffiniad yn amrywio.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d4/NearEast.png/320px-NearEast.png)
Cyn 1918, yn ystod dyddiau Ymerodraeth yr Otomaniaid, roedd y term yn cynnwys Twrci, y Balcanau, y Lefant, a'r Aifft. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y Dwyrain Canol yn cyfeirio at Arabia, y Gwlff, Persia, Mesopotamia, ac Affganistan.[1]
Heddiw, mae'r term yn aml yn cynnwys gwledydd y Dwyrain Canol sy'n ffinio â Môr y Canoldir, gan gynnwys gogledd-ddwyrain Affrica a de-orllewin Asia.