Winnie Ewing
gwleidydd Albanaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Albanaidd blaenllaw a chyfreithwraig oedd Winifred Margaret 'Winnie' Ewing (neu Winnie Ewing; 10 Gorffennaf 1929 – 21 Mehefin 2023)[1]. Bu'n un o brif arweinwyr Plaid Genedlaethol yr Alban (neu'r 'SNP') am flynyddoedd: Aelod Seneddol dros etholaeth Hamilton 1967–70; Moray a Nairn 74–79, bu'n Aelod o Senedd Ewrop dros Ucheldir a'r Ynysoedd 1975–1999 ac yn Aelod o Senedd yr Alban 1999–2003.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Winnie Ewing | |
---|---|
Ganwyd | 10 Gorffennaf 1929 ![]() Glasgow ![]() |
Bu farw | 21 Mehefin 2023 ![]() Bridge of Weir ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, hunangofiannydd, cyfreithiwr, cyfreithegwr, cyfreithiwr ![]() |
Swydd | Aelod Senedd Ewrop, Member of the 1st Scottish Parliament, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban ![]() |
Plant | Annabelle Ewing, Fergus Ewing ![]() |
Cau
Hi oedd Cenedlaetholwr cynta'r Alban i gipio sedd mewn is-etholiad mewn cyfnod o heddwch[2] a'i gwneud yn Aelod Seneddol, ac ers hynny yn 1967, dychwelwyd AS gan yr SNP ym mhob etholiad.[3][4] Bu'n Llywydd ei phlaid rhwng 1987 a 2005.