From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynrhychiolydd sydd wedi'i ethol i Senedd Ewrop yn Strasbourg, yw Aelod Senedd Ewrop neu ASE (weithiau: Aelod Seneddol Ewropeaidd.[1] Roedd 736 o ASEau yn etholiadau Ewropeaidd 2009 a 375 miliwn o etholwyr.
Pan ffurfiwyd Senedd Ewrop ar 10 Medi 1952, roedd ei strwythur yn bur wahanol ac etholwyd ASEau'n uniongyrchol gan lywodraethau unigol y gwledydd (neu'r 'Aelod-Wladwriaethau'), o blith Aeldoau Seneddol a oedd eisoes wedi'u hethol yn lleol. Ers 1979, fodd bynnag, caed etholiadau yn yr Aelod-wladwriaethau'n un pwrpas i'w hethol i Senedd Ewrop. Mae'r dull yn amrywio o Aelod-wladwriaeth i Aelod-wladwriaeth, gan newid dros amser, er bod un rheol euraid: fod yn rhaid cynnwys elfen o gynrychiolaeth gyfrannol. Mewn rhai Aelod-wladwriaethau mae'r ASEau'n cael eu hethol i gynrychioli un etholaeth 'genedlaethol' (h.y. y genedl / Aelod-wladwriaeth) ond mewn Aelod-wladwriaeth eraill cynrychiolant ran (neu Ranbarth) o'r wlad honno.
Caiff etholiadau eu cynnal bob 5 mlynedd.
Clystyrir pob ASE (ar wahân i 27 ohonynt) mewn grwpiau, yn ôl eu daliadau gwleidyddol. Er enghraifft, daw Plaid Lafur Iwerddon a Phlaid Sosialaidd yr Eidal at ei gilydd fel aelodau o'r grŵp 'Clymblaid y Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid dros Ewrop'.
Ar wahân i Awst, mae Llywodraeth Ewrop yn cyfarfod yn fisol am bedwar diwrnod y tro yn Strasbourg a chwe gwaith y flwyddyn maent yn cyfarfod ym Mrwsel,[2] ble mae'r pwyllgorau, is-bwyllgorau a grwpiau gwleidyddol hefyd yn cyfarfod.[3] Yn Uwchgynhadledd Caeredin yn 1992 gwnaed hi'n hanfodol i'r ASEau i dreulio wythnos y mis yn Strasbourg.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.