Weston-super-Mare
tref yng Ngwlad yr Haf / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref ar lan y môr a phlwyf sifil yn sir seremonïol Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Weston-super-Mare.[1] Saif ar Fôr Hafren tua 18 milltir i'r de o Fryste.
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Math | tref |
---|---|
Ardal weinyddol | Weston-Super-Mare |
Poblogaeth | 76,143 |
Gefeilldref/i | Hildesheim |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Haf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.3461°N 2.9769°W |
Cod OS | ST320613 |
Cod post | BS22, BS23, BS24 |
Cau
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 76,143.[2]
Mae'n enwog am ei thraeth tywodog, er bod y môr ar drai yn gallu bod dros filltir i ffwrdd o'r traeth. Er iddi arfer bod yn rhan o Wlad yr Haf, cafodd ei gynnwys yn sir Avon o 1974 ymlaen. Pan gafodd sir Avon ei diddymu ym 1996, crewyd awdurdod unedol Gogledd Gwlad yr Haf, a Weston yn ganolfan weinyddol iddo. Lleolir rhan fwya'r dref ar dir isel gwastad, ond mae rhan o'r dref yn llechi ar lethrau Worlebury Hill, bryn carreg galch sydd yn rhan o'r Bryniau Mendip.