tref yng Ngwlad yr Haf From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, ydy Radstock.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf. Saif 9 milltir (14 km) i'r de-orllewin o Bath, ac 8 milltir (13 km) i'r gogledd-orllewin o Frome. Newidiwyd statws y plwyf yn 2011 i dref, a'r cyngor yn gyngor tref.
Offer weindio o bwll glo Kilmersdon gydag Amgueddfa Radstock yn y cefndir | |
Math | tref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf |
Poblogaeth | 6,149 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Haf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.2927°N 2.4477°W |
Cod SYG | E04012169 |
Cod OS | ST688549 |
Cod post | BA3 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 5,620.[2]
Bu yma aneddiadau ers Oes yr Haearn. Ganrifoedd wedyn, tyfodd y gymuned gan ei fod ar y ffordd Rufeinig y Fosse Way (fossa yw'r gair Lladin am 'ffos') a gysylltai Exeter (Ll: Isca Dumnoniorum) yn Ne-orllewin Lloegr i Lincoln (Ll: Lindum Colonia) yn Swydd Lincoln.[3] Pan ddarganfuwyd glo yn yr ardal yn 1763 agorwyd sawl glofa a thyfodd y gymuned yn sydyn.
Defnyddiodd y Llyngesydd-Arglwydd Radstock, enw'r dref pan wnaethpwyd ef yn farwn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.