Label recodiau Cymreig 1962 - 1970 a ryddhadd gerddoriaeth gan artistiaid fel Dafydd Iwan, Bob Roberts Tai'r Felin, Perlau Tâf ac eraill From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Welsh Teldisc (enw corfforaethol: Welsh Teldisc Records Ltd.) yn un o'r cwmnïau recordio yn yr 1960au a ymroddai'n bennaf i ganeuon yn yr iaith Gymraeg. Sefydlwyd y cwmni gan John Edwards, Abertawe yn 1962. Ganed Edwards yn 1905 ond bu farw'n ifanc yn 1966;[1] goroesodd ei label ef, fodd bynnag, a pharhaodd i gyhoeddi recordiau am ryw bum mlynedd arall, yn ôl pob tebyg dan reolaeth ei weddw Olwen a oedd hefyd yn berchen eiddo ym Mhontardawe.[2][3] Ymysg y recordiau olaf gan y label oedd Bob Tai'r Felin gydag Yr Asyn A Fu Farw yn 1970.[4]
Enghraifft o'r canlynol | cwmni record, label recordio |
---|---|
Dod i'r brig | 1962 |
Dod i ben | 1970 |
Dechrau/Sefydlu | 1962 |
Genre | Pop Cymraeg, côr, cerddoriaeth boblogaidd |
Pencadlys | Abertawe |
Cwmni cynhyrchu | Welsh Teldisc Records Ltd. |
Roedd John Edwards yn bianydd a sefydlodd Cymdeithas Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig (Guild for the Promotion of Welsh Music) yn 1955.[3]
Sefydlodd Edwards Recordiau Qualiton yn 1953. Yn ôl cyhoeddiad y 'Record Retailer' roedd wedi gadael y cwmni hwnnw a ffurfio Teldisc, ond ymddengys iddo barhau i ymwneud â Qualiton. I'r llygad anwybodus nid yw'r deunydd a ryddhawyd ar Welsh Teldisc yn ymddangos mor wahanol i'r hyn a ddaeth allan ar Qualiton, er efallai ar y cyfan fod naws ychydig mwy poblogaidd a llai dyrchafedig iddo.[2]
Ni ryddhawyd unrhyw recordiau ar ôl 1970. Credir mai'r record olaf a ryddhawyd gan y label oedd un gan grŵp yr Awelon Haf – “Daeth Yr Awr”/”Cwm Tawelwch” rhif WD 916, yn 1970.[3] Ym 1974 gwerthwyd Welsh Teldisc i gyhoeddwyr llyfrau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. Pan ddaeth y Gymdeithas honno i ben, gwerthwyd y catalog i Wasg Gomer yn 2009 ac yna i Recordiau Sain.[3]
Yn ogystal â'r prif label roedd hefyd islabeli:[2][3]
Roedd yna ddeuawd boblogaidd yn y brodyr Jac a Wil Davies, a newidiodd o Qualiton, recordio dwsin o EPs i’r cwmni newydd a mwynhau gwerthiant mawr yn ôl safonau recordiau Cymraeg. Rhyddhawyd recordiau enwog Dafydd Iwan, 'Carlo', 'Daw fe Ddaw yr Awr', 'Rwy'n gweld y Dydd' a chaneuon Dafydd Iwan ac Edward Morris Jones gan y label a chân 'Trên Bach yr Wyddfa' gan Hogia Llandegai yn ogystal â recordiau gan Perlau Tâf.[2] Rhyddhawyd hefyd caneuon enwog fel Beic Peniffardding fy Nhaid gan Triawd y Coleg, Jac a Wil, caneuon Richie Thomas, Huw Jones, Robert Roberts (Bob Tai'r Felin), Emyr Wyn, Bois y Blacbord, corau meibion Pontarddulais a Chaernarfon, Helen Wyn gyda Hebogiaid y Nos a nifer fawr o artistiaid eraill gan gynnwys nifer fechan yn canu'n Saesneg.[5]
Er gwaethaf y ffaith fod Qualiton yn berchen ar weithdy gwasgu, Phonodisc oedd yn gwasgu nifer o'r Teldiscs Cymraeg ar feinyl. Daeth rhai o'r rhai diweddarach gyda'r twll gwerthyd mawr a'r 'pry copyn' plastig a oedd yn nodweddiadol o senglau Phonodisc. Yn ôl yr erthygl 'RR' y cyfeirir ati uchod, roedd Welsh Teldisc yn dosbarthu'r recordiau ei hun.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.