Deuawd boblogaidd iawn o Gefneithin a ganodd emynau a chaneuon ysgafn Cymraeg rhwng 1957 a'r 1970au From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Jac a Wil yn ddeuawd a oedd ymhlith artistiaid mwya poblogaidd Cymru yn yr 1950au a'r 1960au.
Enghraifft o'r canlynol | deuawd gerddorol, sibling duo |
---|---|
Label recordio | Welsh Teldisc, Recordiau Qualiton, Cwmni Recordiau Sain |
Dod i'r brig | 1957 |
Dod i ben | 1970s |
Genre | Emynau, Cerddoriaeth Gymraeg, canu gwerin |
Yn cynnwys | Jac Davies, Wil Davies |
Bu'r ddau frawd o Gefneithin oedd Jac Davies (John Wesle Davies 1917 - 5 Chwefror 2008) a Wil Davies (1915 - 11 Medi 1987 yn gweithio dan ddaear yn y pwll glo. Buont yn diddanu torfeydd yng Nghymru o'r 1950au ymlaen yn canu clasuron fel "Adref Rwy'n Dod", "Pwy fydd yma mhen Can Mlynedd" a "Border Mam". Bu iddynt berfformio ar hyd neuaddau cyngherdd ac eisteddfodau Cymru a'r Albert Hall yn Llundain.[1] Urddwyd Jac i'r Orsedd yn 1991 dan yr enw 'Jac o Jac a Wil'.[2]
Dau frawd oedd Jac a Wil. Yn rhan o deulu o naw o blant, chwech o frodyr a thair chwaer – Evelyn, Mary, Pat, Allenby, Tom, Wil, Corris, Cadfan a Jac. Plant i Mark a Catherine Davies, fferm 'Waunwen' ger pentref Cefneithin, Cross Hands, fferm fechan tua ugain erw oedd Waunwen. Glöwr oedd tad y ddau.
Ganwyd Wil yn 1915 a John Wesley Davies (Jac) yn 1917. Priododd Wil â Lena Hughes, a priododd Jac ag Ethel Morgan.[2]
Byddai’r teulu’n mynd i gapel Tabernacl yng Nghefneithin. Yno y byddai’r teulu yn addoli a chanu ers yn ifanc, ac yn deulu cerddorol eu hunain. Bu iddynt ffurfio côr i’r teulu berfformio mewn digwyddiadau lleol, gyda’r enw Côr Yr Aelwyd. Erbyn eu harddegau, roedd Wil a Jac yn canu gyda Chôr Meibion Y Tymbl. Cyfeilydd y côr oedd Tom Hughes, a fyddai’n gymaint o ddylanwad ar yrfa gerddorol Jac a Wil.
Bu Jac a Wil yn aelodau grwpiau a chorau fel y Tumble Trobadours yn 1947 a Chôr Meibion Mynydd Mawr, yn ogystal a pherfformio fel deuawd.[2] Bu Jac hefyd yn aelod o Gôr Mynydd Mawr, Côr Meibion De Cymru, Cantorion Y Rhyd a’r Parti Bach.[2]
Cafodd y ddeuawd eu darganfod yn canu yn nhafarn y Cennen Arms, Trapp, ger Llandeilo gan y brodyr Alun ac Aneirin Talfan Davies yn 1957,[2] cynhyrchwyr cynnar y byd adloniant a theledu. Gwerthwyd dros 100,00 o'u recordiau dros yr hanner can mlynedd y buont yn diddanu.
Hyd ddiwedd ei oes, roedd Jac Davies yn wyneb adnabyddus ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn heini ei gorff a'i goesau'n destun siarad gan y byddai bob amser yn gwisgo trowsus byr!
Bu farw Wil Davies o glefyd y llwch ar ddiwedd y 1980au, ond dathlodd ei frawd, Jac Davies ei ben blwydd yn 90 oed yn Ebrill 2007.
Ar achlysur y pen blwydd hwn, bu nifer o artistiaid amlyca' Cymru yn talu teyrnged i'r ddau frawd mewn rhaglen arbennig o Wedi 7 ar S4C. Ymhlith y cantorion roedd Bryn Terfel yn canu detholiad o hoff ganeuon Jac. Trefnodd ei deulu a ffrindiau barti arbennig iddo yng ngwersty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin.
Bu farw Jac Davies yn Chwefror 2008.
Darlledwyd rhaglen yn olrhain hanes Jac a Wil Davies ar BBC Radio Cymru, ddydd Sul, 10 Chwefror 2008 [3] ac ar 4 Ionawr 2009 hefyd.[4]
Roedd allbwn Jac a Wil dros gyfnod o 20 mlynedd yn fawr iawn gan sefydlu eu hunain fel un o brif berfformwyr Cymraeg yr 1950au a 60au.[1][2]
" Jac a Wil Sing Familiar Songs EP 7", Welsh Teldisc TEP 846 1964
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.