![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d6/Wassily_kandinsky.jpg/640px-Wassily_kandinsky.jpg&w=640&q=50)
Wassily Kandinsky
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bu Wassily Wassilyevich Kandinsky - Васи́лий Васи́льевич Канди́нский, Vasiliy Vasil’yevich Kandinskiy, (16 Rhagfyr 1866 – 13 Rhagfyr 1944) yn arlunydd arloesol, cydnabuwyd am greu rhai o'r peintiadau haniaethol (Abstract) pur cyntaf.[1]
Wassily Kandinsky | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1866 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Moscfa ![]() |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1944 ![]() Neuilly-sur-Seine ![]() |
Man preswyl | Moscfa, Neuilly-sur-Seine, Odesa, München ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd, Ffrainc, yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, academydd, damcaniaethwr celf, athro, cyfreithiwr, darlunydd, gwneuthurwr printiau, arlunydd graffig, drafftsmon, cynllunydd llwyfan, cynllunydd, cerflunydd, drafftsmon ![]() |
Swydd | cyfarwyddwr ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Composition VII ![]() |
Arddull | paentio, graffeg, damcaniaeth, celf haniaethol ![]() |
Prif ddylanwad | Haystacks, Lohengrin, Helena Blavatsky, pwyntiliaeth, Fauvisme, Blue Rose, cerddoriaeth, Richard Wagner, Claude Monet, Edvard Munch, Vincent van Gogh, Henri Matisse, Pablo Picasso, Walter Gropius, Rudolf Steiner ![]() |
Mudiad | Mynegiadaeth, Symbolaeth (celf), Bauhaus ![]() |
Priod | Nina Nikolajewna Andreevskaja ![]() |
Partner | Gabriele Münter ![]() |
Gwefan | https://www.wassilykandinsky.net ![]() |
llofnod | |
![]() |
Yn fab i deulu busnes gweddol gyfoethog, treiodd ei blentyndod yn Odessa. Rhwng 1886 a 1889 astudiodd y gyfraith ac economeg ym Moscow. Dechreuodd arlunio'n 30 oed ac ym 1896 gan wrthododd gynnig proffesoriaeth yn y gyfraith ym Mhrifysgol Dorpat er mwyn fynd i Munich i astudio mewn ysgol gelf breifat ac wedyn Academi Celf Gain y ddinas.[2]
Dychwelodd i Foscow ym 1914 wedi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn anfodlon gyda theorïau swyddogol y llywodraeth Bolsiefic newydd yn dilyn Chwyldro Rwsia ym 1917 dychwelodd i'r Almaen yn 1921. Bu'n athro yn yr ysgol gelf arloesol y Bauhaus nes iddo gael ei gau gan y Natsïaid ym 1933 a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Symudodd i Ffrainc gan ddod yn ddinesydd Ffrengig ym 1939.