From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o Ffrainc oedd Claude Oscar Monet (14 Tachwedd 1840 – 5 Rhagfyr 1926), yn sylfaenydd y mudiad celfyddydol Argraffiadaeth (Impressionnisme), Ei baentiad Impression: Soleil levant ('Argraff: Yr haul yn codi') a roddodd yr enw i'r mudiad arloesol newydd.[1][2] Roedd ei uchelgais o ddogfenni tirwedd Ffrainc yn ei arwain i beintio'r un olygfa sawl tro er mwyn dal newidiadau yn y golau wrth i'r tymhorau pasio. O 1883 ymlaen bu'n byw yn Giverny, ble y prynodd dŷ ac aeth ati i godi gerddi yn cynnwys pyllau lili a ddaeth yn rhai o'i ddarluniau enwocaf.
Claude Monet | |
---|---|
Ganwyd | Oscar-Claude Monet 14 Tachwedd 1840 Paris |
Bedyddiwyd | 20 Mai 1841 |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1926 Giverny |
Man preswyl | Giverny, Villa Saint-Louis, Argenteuil, Vétheuil |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd graffig |
Adnabyddus am | Impression, Sunrise, Garden at Sainte-Adresse, Houses of Parliament serie, La Corniche near Monaco, Water Lilies, Rouen Cathedral Series |
Arddull | celf tirlun, bywyd llonydd, portread |
Prif ddylanwad | Gustave Courbet, Jean-François Millet, Édouard Manet, Joseph Mallord William Turner, Hokusai |
Mudiad | Argraffiadaeth |
Priod | Camille Doncieux, Alice Hoschedé |
Plant | Jean Monet, Michel Monet |
Perthnasau | Germaine Hoschedé |
llofnod | |
Yn siomedig ag agwedd ceidwadol yr Académie des Beaux-Arts ac eu hymateb negyddol i'w gwaith, trefnodd Monet a grŵp o arlunwyr o'r un meddwl arddangosfa eu hunain ym 1874. Roedd yr arddangosfa yn agored i unrhyw un oedd yn fodlon talu 60 ffranc ac yn cymeradwyo dim ymyrraeth o banel o ddetholwyr i wrthod unrhyw waith.
Fe arddangoswyd cyfanswm o 165 o weithiau, yn cynnwys rhai gan Renoir, Degas, Pissarro a Cézanne.
Galwyd y grŵp yn Impressionnistes. Eu nod oedd dylunio'r byd o'u cwmpas mewn modd mwy rhydd a ffres na chaniataodd gonfensiynau academaidd y cyfnod, gan ddal yr "argraff" cyffredinol o olygfa a welir gan y llygaid, gyda phwyslais ar effeithiau lliw a golau. Roedd peintio tirluniau yn yr awyr agored yn un o brif nodweddion y symudiad, yn ogystal â golygfeydd o fywyd dinesig bob dydd.
[3]
Ym 1876 symudodd teulu Monet i bentref Vétheuil yn rhannu tŷ ag Ernest Hoschedé, dyn busnes cyfoethog ac yn gefnogwr y celfyddydau. Ym 1879 bu farw ei wraig Camille o ganser yn 32 mlwydd oed.[11][12] Yn y cyfnod anodd wedi colled Camille peintiodd Monet rhai o ddarluniau gorau yn darganfod Giverny yn Normandi ym 1883.
Yn 1877 gwnaeth gyfres o ddarluniau o orsaf drenau St-Lazare, Paris, yn astudio ager a mŵg a'r ffordd a'u heffaith ar liw a thryloywder. Roedd yn gallu defnyddio’r astudiaethau hyn yn ddiweddarach ar gyfer effeithiau niwl a glaw.[13][14]
Prynodd dŷ yn Giverny ar gyfer ei deulu mawr, gydag ysgubor ar gyfer ei stiwdio. Wrth i gyfoeth Monet dyfu fe ehangodd y gerddi gan gyflogi 7 o arddwyr a phensaer.[15] Ym 1993 prynodd ragor o diroedd yn cynnwys dolydd gwlyb ble'r adeiladodd lynnoedd gyda lilis a phont Japaneaidd. Treuliodd yr 20 mlynedd nesaf yn gwneud cyfres o gynfasau mawrion o'r golygfeydd hyn gan astudio'r golau a'r adlewyrchiadau a ddaeth yn rhai o'i weithiau enwocaf.[16] Mae'r tŷ yn Giverny bellach yn agored i'r cyhoedd ac yn denu miloedd o dwristiaid o bob cwr o'r byd.
Peintiodd Monet yn uniongyrchol ar gynfasau mawrion yn yr awyr agored, a'u gorffen yn ei stiwdio yn nes ymlaen. Yn ei ymgais i well gyfleu natur fe wrthododd gonfensiynau Ewropeaidd y cyfnod ynglŷn â chyfansoddi, lliw a phersbectif. Fe'i dylanwadwyd gan brintiau bloc pren Japaneaidd, ei drefniadau anghymesur o elfennau yn pwysleisio eu harwynebedd dau ddimensiwn gan hepgor persbectif llinol. Llwyddodd greu lliwiau llachar ysgeifn gan ychwanegu amrywiaeth o dôn i'r cysgodion, ac yn paratoi cefndir y cynfas gyda lliwiau golau yn lle'r cefndiroedd tywyll a oedd yn draddodiadol mewn tirluniau.
|title=
(help) (full text PDF available)Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.